Jeremeia 6 BCN

Gwarchae ar Jerwsalem

1 “Ffowch, blant Benjamin, o ganol Jerwsalem.Canwch utgorn yn Tecoa, a chodwch ffagl ar Beth-hacerem,oherwydd y mae drwg yn crynhoi o'r gogledd, a dinistr mawr.

2 Yr wyf am ddinistrio merch Seion, y ferch deg, foethus.

3 Fe ddaw bugeiliaid â'u praidd hyd ati,gosodant bebyll o'i chylch, a phorant bob un yn ei lain ei hun.

4 ‘Paratowch ryfel sanctaidd yn ei herbyn;codwch, awn i fyny ganol dydd.Gwae ni! Ciliodd y dydd ac y mae cysgodau'r hwyr yn ymestyn.

5 Codwch, awn i fyny liw nos a distrywiwn ei phalasau.’ ”

6 Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:“Torrwch goed, a chodwch glawdd yn erbyn Jerwsalem;hon yw'r ddinas i'w chosbi, nid oes dim ond gorthrymder o'i mewn.

7 Fel y mae dyfroedd yn tarddu mewn ffynnon,felly y mae ei drygioni ynddi hi.Am drais ac ysbail y clywir ynddi;gwaeledd a chleisiau sydd yn wastad ger fy mron.

8 Cymer wers, O Jerwsalem, rhag i mi dy adael yn llwyr,rhag i mi dy wneud yn anrhaith, yn dir anghyfannedd.”

Israel Wrthryfelgar

9 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:“Lloffa weddill Israel yn lân, fel lloffa gwinwydd;fel casglwr grawnwin tyn dy law eilwaith dros y brigau.”

10 Â phwy y llefaraf i'w rhybuddio, a pheri iddynt glywed?Wele, y mae eu clust yn gaeedig, ac ni allant ddal sylw.Wele, y mae gair yr ARGLWYDD yn ddirmyg iddynt; nid ydynt yn ei ddymuno.

11 Yr wyf finnau'n llawn o lid yr ARGLWYDD; yr wyf wedi blino ar ymatal.“Tywelltir ef ar y plant yn yr heol,ac ar gynulliadau'r ifainc hefyd;delir y gŵr a'r wraig fel ei gilydd,yr hynafgwr a'r aeddfed mewn dyddiau.

12 Trosglwyddir eu tai i eraill,a'u meysydd a'u gwragedd ynghyd;canys estynnaf fy llaw ar drigolion y wlad,” medd yr ARGLWYDD.

13 “O'r lleiaf hyd y mwyaf ohonynt, y mae pob un yn awchu am elw;o'r proffwyd i'r offeiriad, y maent bob un yn gweithredu'n ffals.

14 Dim ond yn arwynebol y maent wedi iacháu briw fy mhobl,gan ddweud, ‘Heddwch! Heddwch!’—ac nid oes heddwch.

15 A oes arnynt gywilydd pan wnânt ffieidd-dra?Dim cywilydd o gwbl, ac ni allant wrido.Am hynny fe syrthiant gyda'r syrthiedig;yn nydd eu cosbi fe gwympant,” medd yr ARGLWYDD.

Israel yn Gwrthod Ffordd Duw

16 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Safwch ar y ffyrdd; edrychwch, ac ymofyn am yr hen lwybrau. Ple bynnag y cewch ffordd dda, rhodiwch ynddi, ac fe gewch le i orffwys.” Ond dywedasant, “Ni rodiwn ni ddim ynddi.”

17 “Gosodaf wylwyr drosoch,” meddai, “gwrandewch ar sain yr utgorn.” Ond dywedasant, “Ni wrandawn ni ddim.”

18 “Am hynny clywch, genhedloedd, a gwybydd, gynulliad, beth a ddigwydd iddynt.

19 Clyw, wlad, rwyf am ddwyn drwg ar y bobl hyn, ffrwyth eu bwriadau hwy eu hunain. Ni wrandawsant ar fy ngeiriau, a gwrthodasant fy nghyfraith.

20 Pam y cludir i mi thus o Sheba, a chorsen bêr o wlad bell? Nid oes pleser i mi yn eich poethoffrwm, na boddhad yn eich aberth.”

21 Am hynny fe ddywed yr ARGLWYDD,“Rwyf am osod i'r bobl hyn feini tramgwydd a'u dwg i lawr;tadau a phlant ynghyd, cymydog a chyfaill, fe'u difethir.”

22 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Wele, y mae pobl yn dod o dir y gogledd;cenedl gref yn ymysgwyd o bellafoedd y ddaear.

23 Gafaelant mewn bwa a gwaywffon, y maent yn greulon a didostur;y mae eu twrf fel y môr yn rhuo, marchogant feirch,a dod yn rhengoedd, fel gwŷr yn mynd i ryfela, yn dy erbyn di, ferch Seion.”

24 Clywsom y newydd amdanynt, a llaesodd ein dwylo;daliwyd ni gan ddychryn, gwewyr fel gwraig yn esgor.

25 Paid â mynd allan i'r maes, na rhodio ar y ffordd,oherwydd y mae gan y gelyn gleddyf, ac y mae dychryn ar bob llaw.

26 Merch fy mhobl, gwisga sachliain, ymdreigla yn y lludw;gwna alarnad fel am unig blentyn, galarnad chwerw;oherwydd yn ddisymwth y daw'r distrywiwr arnom.

27 “Gosodais di yn safonwr ac yn brofwr ymhlith fy mhobl,i wybod ac i brofi eu ffyrdd.

28 Y maent i gyd yn gyndyn ac ystyfnig, yn byw yn enllibus.Pres a haearn ydynt; y maent i gyd yn peri distryw.

29 Y mae'r fegin yn chwythu'n gryf, a'r plwm wedi darfod gan y tân;yn ofer y toddodd y toddydd, oherwydd ni symudwyd y drygioni.

30 Arian gwrthodedig y gelwir hwy, oherwydd gwrthododd yr ARGLWYDD hwy.”