Jeremeia 48 BCN

Dinistr Moab

1 Am Moab, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel:“Gwae Nebo, canys fe'i hanrheithiwyd!Cywilyddiwyd a daliwyd Ciriathaim;cywilyddiwyd Misgab, a'i difetha.

2 Ni bydd gogoniant Moab mwyach;yn Hesbon cynlluniwyd drwg yn eu herbyn:‘Dewch, dinistriwn hi fel na bydd yn genedl!’Distewir dithau, Madmen,erlidia'r cleddyf di.

3 Clyw waedd o Horonaim,‘Anrhaith a dinistr mawr!’

4 Dinistriwyd Moab;clywir ei gwaedd hyd yn Soar.

5 Canys dringant riw Luhithdan wylo'n chwerw;ac ar lechwedd Horonaimclywir cri ddolefus dinistr.

6 Ffowch, dihangwch am eich einioes,fel y gwna'r asyn gwyllt yn yr anialwch.

7 “Am i ti ymddiried yn dy weithredoedda'th drysorau dy hun,cei dithau hefyd dy ddal;â Cemos i ffwrdd i gaethglud,ynghyd â'i offeiriaid a'i benaethiaid.

8 Daw'r anrheithiwr i bob dinas,ni ddihanga un ohonynt;derfydd am y dyffryn, difwynir y gwastadedd,fel y dywed yr ARGLWYDD.

9 Rhowch garreg fedd ar Moab,canys difodwyd hi'n llwyr;gwnaed ei dinasoedd yn anghyfannedd,heb breswylydd ynddynt.

10 Melltith ar y sawl sy'n gwneud gwaith yr ARGLWYDD yn ddi-sut,melltith ar bwy bynnag sy'n atal ei gleddyf rhag gwaed.

11 “Bu'n esmwyth ar Moab erioed;gorffwysodd fel gwin ar ei waddod;nis tywalltwyd o lestr i lestr;nid aeth hi i gaethiwed.Felly y cadwodd ei blas,ac ni newidiodd ei sawr.

12 “Am hynny, wele'r dyddiau yn dod,” medd yr ARGLWYDD, “yr anfonaf rai i'w hysgwyd; ac ysgydwant hi, a gwacáu ei llestri a dryllio'r costrelau.

13 A chywilyddir Moab o achos Cemos, fel y cywilyddiwyd Israel o achos Bethel, eu hyder hwy.

14 “Pa fodd y dywedwch, ‘Cedyrn ŷm ni,a gwŷr nerthol i ryfel’?

15 Daeth anrheithiwr Moab a'i dinasoedd i fyny,a disgynnodd y gorau o'i hieuenctid i'r lladdfa,”medd y Brenin—ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.

16 “Daeth dinistr Moab yn agos,ac y mae ei thrychineb yn prysuro'n gyflym.

17 Galarwch drosti, bawb sydd o'i hamgylch,bawb sy'n adnabod ei henw.Gofynnwch, ‘Pa fodd y torrwyd y ffon grefa'r wialen hardd?’

18 Disgyn o'th ogoniant,ac eistedd ar dir sychedig,ti, breswylferch Dibon;canys daeth anrheithiwr Moab yn dy erbyn,a dinistrio d'amddiffynfeydd.

19 Saf ar ymyl y ffordd, a gwêl,ti, breswylferch Aroer;gofyn i'r sawl sy'n ffoi ac yn dianc,a dywed, ‘Beth a ddigwyddodd?’

20 Cywilyddiwyd Moab, a'i dinistrio;udwch, a llefwch.Mynegwch yn Arnon fod Moab yn anrhaith.

21 “Daeth barn ar y gwastadedd, ar Holon a Jahas a Meffaath,

22 ar Dibon a Nebo a Beth-diblathaim;

23 ar Ciriathaim a Beth-gamul a Beth-meon;

24 ar Cerioth a Bosra, a holl ddinasoedd gwlad Moab, ymhell ac yn agos.

25 Tynnwyd ymaith gorn Moab, a thorrwyd ei braich,” medd yr ARGLWYDD.

26 “Gwnewch hi'n feddw,canys ymfawrygodd yn erbyn yr ARGLWYDD;ymdrybaedded Moab yn ei chwydfa,a bydded felly'n gyff gwawd.

27 Oni bu Israel yn gyff gwawd i ti,er nad oedd ymysg lladron,fel yr ysgydwit dy ben wrth sôn amdani?

28 “Cefnwch ar y dinasoedd, a thrigwch yn y creigiau,chwi breswylwyr Moab;byddwch fel colomen yn nythuyn ystlysau'r graig uwch yr hafn.

29 Clywsom am falchder Moab,ac un falch iawn yw hi—balch, hy, ffroenuchel ac uchelgeisiol.

30 Mi wn,” medd yr ARGLWYDD, “ei bod yn haerllug;y mae ei hymffrost yn gelwydd,a'i gweithredoedd yn ffals.

31 Am hynny fe udaf dros Moab;llefaf dros Moab i gyd,griddfanaf dros bobl Cir-heres.

32 Wylaf drosot yn fwy nag yr wylir dros Jaser,ti, winwydden Sibma;estynnodd dy gangau hyd y môr,yn cyrraedd hyd Jaser;ond rhuthrodd yr anrheithiwr ar dy ffrwythauac ar dy gynhaeaf gwin.

33 Bydd diwedd ar lawenydd a gorfoleddyn y doldir ac yng ngwlad Moab;gwnaf i'r gwin ddarfod o'r cafnau,ac ni fydd neb yn sathru â bloddest—bloddest nad yw'n floddest.

34 “Daw cri o Hesbon ac Eleale; codant eu llef hyd Jahas, o Soar hyd Horonaim ac Eglath-Shalisheia, oherwydd aeth dyfroedd Nimrim yn ddiffaith.

35 Gwnaf ddiwedd yn Moab,” medd yr ARGLWYDD, “ar y sawl sy'n offrymu mewn uchelfa, ac yn arogldarthu i'w dduwiau.

36 Am hynny bydd fy nghalon yn dolefain fel sain ffliwt dros Moab, ac yn dolefain fel sain ffliwt dros wŷr Cir-heres, oblegid darfu'r golud a gasglasant.

37 Bydd pob pen yn foel a phob barf wedi ei heillio, archollir pob llaw, a bydd sachliain am y llwynau.

38 Ar ben pob tŷ yn Moab, ac ym mhob heol, bydd galar, oherwydd drylliaf Moab fel llestr nad oes neb yn ei hoffi,” medd yr ARGLWYDD.

39 “Pa fodd y malwyd hi? Udwch! Pa fodd y troes Moab ei gwegil o gywilydd? Felly y bydd Moab yn gyff gwawd ac yn achos arswyd i bawb o'i hamgylch.”

40 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Wele, bydd un fel eryr yn ehedeg,ac yn lledu ei adenydd dros Moab;

41 gorchfygir y dinasoedd,ac enillir yr amddiffynfeydd,a bydd calon dewrion Moab, y diwrnod hwnnw,fel calon gwraig wrth esgor.

42 Difethir Moab o fod yn bobl,canys ymfawrygodd yn erbyn yr ARGLWYDD.

43 Dychryn, ffos a maglsydd yn dy erbyn, ti breswylydd Moab,”medd yr ARGLWYDD.

44 “Y sawl a ffy rhag y dychryn,fe syrth i'r ffos;a'r sawl a gyfyd o'r ffos,fe'i delir yn y fagl.Dygaf yr holl bethau hyn arni, ar Moab, ym mlwyddyn ei chosb,”medd yr ARGLWYDD.

45 “Gerllaw Hesbon y safant,yn ffoaduriaid heb nerth;canys aeth tân allan o Hesbon,a fflam o blas Sihon,ac yswyd talcen Moaba chorun plant y cythrwfl.

46 Gwae di, Moab! Darfu am bobl Cemos;cymerwyd dy feibion ymaith i gaethglud,a'th ferched i gaethiwed.

47 Eto byddaf yn adfer llwyddiant Moab yn y dyddiau diwethaf,” medd yr ARGLWYDD. Dyna ddiwedd barnedigaeth Moab.