1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Pe safai Moses a Samuel o'm blaen, eto ni byddai gennyf serch at y bobl hyn. Bwrw hwy allan o'm golwg, a bydded iddynt fynd ymaith.
2 Ac os dywedant wrthyt, ‘I ble'r awn?’, dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:’ ”“Y sawl sydd i angau, i angau;y sawl sydd i gleddyf, i gleddyf;y sawl sydd i newyn, i newyn;y sawl sydd i gaethiwed, i gaethiwed.”
3 “A chosbaf hwy mewn pedair ffordd, medd yr ARGLWYDD: cleddyf i ladd, y cŵn i larpio, adar y nefoedd a bwystfilod gwyllt i ysu ac i ddifa.
4 Gwnaf hwy yn arswyd i holl deyrnasoedd y byd, oherwydd yr hyn a wnaeth Manasse fab Heseceia, brenin Jwda, yn Jerwsalem.”
5 “Pwy a drugarha wrthyt, O Jerwsalem?Pwy a gydymdeimla â thi?Pwy a ddaw heibio i ymofyn amdanat?
6 Gadewaist fi, medd yr ARGLWYDD,a throi dy gefn arnaf;ac estynnaf finnau fy llaw yn dy erbyn i'th ddifa;rwy'n blino ar drugarhau.
7 Gwyntyllaf hwy â gwyntyll ym mhyrth y wlad;di-blantaf, difethaf fy mhobl,am na ddychwelant o'u ffyrdd.
8 Gwnaf eu gweddwon yn amlach na thywod y môr;dygaf anrheithiwr ganol dydd yn erbyn mam y gŵr ifanc,paraf i ddychryn a braw ddod arni yn ddisymwth.
9 Llesgâ'r un a esgorodd ar saith o feibion;syrth mewn llesmair,machluda ei haul, a hi eto'n ddydd;fe'i dygir i gywilydd a gwaradwydd.Rhoddaf i'r cleddyf y rhai sy'n weddill,yng ngŵydd eu gelynion, medd yr ARGLWYDD.”
10 Gwae fi, fy mam, iti fy nwyn i'r bydyn ŵr ymrafael, yn ŵr cynnen i'r holl wlad.Ni bûm nac echwynnwr na dyledwr,eto y mae pawb yn fy melltithio.
11 Dywedodd yr ARGLWYDD,“Yn ddiau gwaredaf di er daioni;gwnaf i'th elyn ymbil â thiyn amser adfyd ac yn amser gofid.”
12 “A ellir torri haearn, haearn o'r gogledd, neu bres?
13 Gwnaf dy gyfoeth a'th drysorau yn anrhaith,nid am bris ond oherwydd dy holl bechod yn dy holl derfynau.
14 Gwnaf i ti wasanaethu d'elynion mewn gwlad nad adwaenost,canys yn fy nicter cyneuwyd tân, a lysg hyd byth.”
15 Fe wyddost ti, O ARGLWYDD;cofia fi, ymwêl â mi, dial drosof ar f'erlidwyr.Yn dy amynedd, paid â'm dwyn ymaith;gwybydd i mi ddwyn gwarth er dy fwyn di.
16 Cafwyd geiriau gennyt, ac aethant yn ymborth i mi;daeth dy air yn llawenydd i mi, ac yn hyfrydwch fy nghalon;canys galwyd dy enw arnaf, O ARGLWYDD Dduw y Lluoedd.
17 Nid eisteddais yng nghwmni'r gwamal,ac ni chefais hwyl gyda hwy;ond eisteddwn fy hunan, oherwydd dy afael di arnaf;llenwaist fi â llid.
18 Pam y mae fy mhoen yn ddi-baid,a'm clwy yn ffyrnig, ac yn gwrthod iachâd?A fyddi di i mi fel nant dwyllodrus,neu fel dyfroedd yn pallu?
19 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Os dychweli, fe'th adferaf ac fe sefi o'm blaen;os tynni allan y gwerthfawr oddi wrth y diwerth,byddi fel genau i mi;try'r bobl atat ti, ond ni throi di atynt hwy.
20 Fe'th wnaf i'r bobl hyn yn fagwyr o bres;ymladdant yn dy erbyn ond ni'th orchfygant,canys yr wyf gyda thi i'th achub ac i'th wared,” medd yr ARGLWYDD.
21 “Gwaredaf di o afael y rhai drygionus,rhyddhaf di o law'r rhai creulon.”