Jeremeia 5 BCN

Pechod Jerwsalem

1 “Rhedwch yma a thraw trwy heolydd Jerwsalem, edrychwch a sylwch;chwiliwch yn ei lleoedd llydain a oes un i'w gaelsy'n gwneud barn ac yn ceisio gwirionedd,er mwyn i mi ei harbed hi.

2 Er iddynt ddweud, ‘Byw yw'r ARGLWYDD’,eto tyngu'n gelwyddog y maent.”

3 O ARGLWYDD, onid ar wirionedd y mae dy lygaid di?Trewaist hwy, ond ni fu'n ofid iddynt;difethaist hwy, ond gwrthodasant dderbyn cerydd.Gwnaethant eu hwynebau'n galetach na charreg,a gwrthod dychwelyd.

4 Yna dywedais, “Nid yw'r rhai hyn ond tlodion; ynfydion ydynt,a heb wybod ffordd yr ARGLWYDD na gofynion eu Duw.

5 Mi af yn hytrach at y mawrion, i ymddiddan â hwy;fe wyddant hwy ffordd yr ARGLWYDD a gofynion eu Duw.Ond y maent hwythau'n ogystal wedi malurio'r iau,a dryllio'r tresi.

6 Am hyn, bydd llew o'r coed yn eu taro i lawr,a blaidd o'r anialwch yn eu distrywio;bydd llewpard yn gwylio'u dinasoeddac yn llarpio pob un a ddaw allan ohonynt;oherwydd amlhaodd eu troseddau a chynyddodd eu gwrthgiliad.

7 “Sut y maddeuaf iti am hyn?Y mae dy blant wedi fy ngadael,ac wedi tyngu i'r rhai nad ydynt dduwiau.Diwellais hwy, eto gwnaethant odineb a heidio i dŷ'r butain.

8 Yr oeddent fel meirch nwydus a phorthiannus,pob un yn gweryru am gaseg ei gymydog.

9 Onid ymwelaf â chwi am hyn?” medd yr ARGLWYDD.“Oni ddialaf ar y fath genedl â hon?

10 “Tramwywch trwy ei rhesi gwinwydd, a dinistriwch hwy,ond peidiwch â gwneud diwedd llwyr.Torrwch ymaith ei brigau, canys nid eiddo'r ARGLWYDD mohonynt.

11 Oherwydd bradychodd tŷ Israel a thŷ Jwda fi'n llwyr,” medd yr ARGLWYDD.

12 Buont yn gelwyddog am yr ARGLWYDD a dweud, “Ni wna ef ddim.Ni ddaw drwg arnom, ni welwn gleddyf na newyn;

13 nid yw'r proffwydi ond gwynt, nid yw'r gair yn eu plith.Fel hyn y gwneir iddynt.”

14 Am hynny, dyma air yr ARGLWYDD, Duw y Lluoedd:“Am i chwi siarad fel hyn,dyma fi'n rhoi fy ngeiriau yn dy enau fel tân,a'r bobl hyn yn gynnud, ac fe'u difa.

15 Wele, fe ddygaf yn eich erbyn, dŷ Israel, genedl o bell—hen genedl, cenedl o'r oesoedd gynt,” medd yr ARGLWYDD,“cenedl nad wyt yn gwybod ei hiaith, nac yn deall yr hyn y mae'n ei ddweud.

16 Y mae ei chawell saethau fel bedd agored;gwŷr cedyrn ydynt oll.

17 Fe ysa dy gynhaeaf a'th fara;ysa dy feibion a'th ferched;ysa dy braidd a'th wartheg;ysa dy winwydd a'th ffigyswydd;distrywia â chleddyf dy ddinasoedd caerog,y dinasoedd yr wyt yn ymddiried ynddynt.

18 “Ac eto yn y dyddiau hynny,” medd yr ARGLWYDD, “ni ddygaf ddiwedd llwyr arnoch.

19 Pan ddywedwch, ‘Pam y gwnaeth yr ARGLWYDD ein Duw yr holl bethau hyn i ni?’, fe ddywedi wrthynt, ‘Fel y bu i chwi fy ngwrthod i, a gwasanaethu duwiau estron yn eich tir, felly y gwasanaethwch bobl ddieithr mewn gwlad nad yw'n eiddo i chwi.’

20 “Mynegwch hyn yn nhŷ Jacob, cyhoeddwch hyn yn Jwda a dweud,

21 ‘Clywch hyn yn awr, bobl ynfyd, ddiddeall:y mae ganddynt lygaid, ond ni welant; clustiau, ond ni chlywant.

22 Onid oes arnoch fy ofn i?’ medd yr ARGLWYDD. ‘Oni chrynwch o'm blaen?Mi osodais y tywod yn derfyn i'r môr,yn derfyn sicr na all ei groesi;pan ymgasgla'r tonnau ni thyciant,pan rua'r dyfroedd nid ânt drosto.

23 Ond calon wrthnysig a gwrthryfelgar sydd gan y bobl hyn;y maent yn parhau i wrthgilio.

24 Ac ni ddywedant yn eu calon, “Bydded inni ofni'r ARGLWYDD ein Duw,sy'n rhoi'r glaw, a chawodydd y gwanwyn a'r hydref yn eu pryd,a sicrhau i ni wythnosau penodedig y cynhaeaf.”

25 Ond y mae eich camweddau wedi rhwystro hyn,a'ch pechodau wedi atal daioni rhagoch.

26 Oherwydd cafwyd rhai drwg ymhlith fy mhobl;y maent yn gwylio fel un yn gosod magl,ac yn gosod offer dinistr i ddal pobl.

27 Fel y mae cawell yn llawn o adar,felly y mae eu tai yn llawn o dwyll.

28 Trwy hynny aethant yn fawr a chyfoethog, yn dew a bras.Aethant hefyd y tu hwnt i weithredoedd drwg;ni roddant ddedfryd deg i'r amddifad, i beri iddo lwyddo,ac nid ydynt yn iawn farnu achos y tlawd.

29 Onid ymwelaf â chwi am hyn?’ medd yr ARGLWYDD.‘Oni ddialaf ar y fath genedl â hon?

30 Peth aruthr ac erchyll a ddaeth i'r wlad.

31 Y mae'r proffwydi yn proffwydo celwydd,a'r offeiriaid yn cyfarwyddo'n unol â hynny,a'm pobl yn hoffi'r peth.Ond beth a wnewch yn y diwedd?’ ”