Jeremeia 24 BCN

Dau Gawell o Ffigys

1 Dangosodd yr ARGLWYDD i mi, ac yno yr oedd dau gawell o ffigys wedi eu gosod o flaen teml yr ARGLWYDD. Yr oedd hyn ar ôl i Nebuchadnesar brenin Babilon gaethgludo Jechoneia, mab Jehoiacim brenin Jwda, a thywysogion Jwda, a'r crefftwyr a'r gofaint o Jerwsalem, a'u dwyn i Fabilon.

2 Yn un cawell yr oedd ffigys da iawn, fel ffigys blaenffrwyth, ac yn yr ail gawell ffigys drwg iawn, na ellid eu bwyta gan mor ddrwg oeddent.

3 Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Beth a weli di, Jeremeia?” A dywedais, “Ffigys; y ffigys da yn dda iawn, a'r rhai drwg yn ddrwg iawn, na ellid eu bwyta gan mor ddrwg oeddent.”

4 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf:

5 “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Fel y ffigys da hyn yr ystyriaf y rhai a gaethgludwyd o Jwda, ac a yrrais o'r lle hwn er eu lles i wlad y Caldeaid.

6 Cadwaf fy ngolwg arnynt er daioni, a dygaf hwy'n ôl i'r wlad hon, a'u hadeiladu, ac nid eu tynnu i lawr; eu plannu ac nid eu diwreiddio.

7 Rhof iddynt galon i'm hadnabod, mai myfi yw'r ARGLWYDD; a byddant yn bobl i mi, a minnau'n Dduw iddynt hwy. Byddant yn troi ataf fi â'u holl galon.’

8 “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Fel y ffigys drwg, na ellid eu bwyta gan mor ddrwg oeddent, yr ystyriaf Sedeceia brenin Jwda, a'i dywysogion, a gweddill Jerwsalem a adewir yn y wlad hon, a'r rhai sy'n trigo yng ngwlad yr Aifft.

9 Gwnaf hwy'n arswyd, yn gywilydd i holl deyrnasoedd y ddaear, ac yn ddihareb a gwatwar a melltith, ym mhob man lle'r alltudiaf hwy.

10 Gyrraf arnynt gleddyf a newyn a haint, nes eu difodi o'r tir a rois iddynt ac i'w hynafiaid.’ ”