1 Dyma'r gair oddi wrth yr ARGLWYDD a ddaeth at Jeremeia wedi i Nebusaradan, pennaeth y milwyr, ei ollwng yn rhydd o Rama. Yr oedd wedi ei ddwyn yno mewn rhwymau yng nghanol yr holl garcharorion o Jerwsalem a Jwda oedd yn cael eu caethgludo i Fabilon.
2 Cymerodd pennaeth y milwyr Jeremeia a dweud wrtho, “Rhagfynegodd yr ARGLWYDD dy Dduw y drwg hwn yn erbyn y lle hwn,
3 a chyflawnodd ei eiriau, oherwydd pechasoch yn erbyn yr ARGLWYDD; ni wrandawsoch arno, a daeth yr aflwydd hwn arnoch.
4 Edrych yn awr, yr wyf yn dy ryddhau di heddiw o'r cadwynau sydd arnat. Os wyt yn dewis dod gyda mi i Fabilon, tyrd, a gofalaf amdanat; os nad wyt yn dewis dod gyda mi, paid; edrych, y mae'r holl wlad o'th flaen, dos i'r fan sydd orau gennyt.
5 Os yw'n well gennyt aros, dychwel at Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan, a osododd brenin Babilon yn arolygydd dros ddinasoedd Jwda, ac aros gydag ef ymhlith y bobl; neu dos i'r lle a fynni.” Rhoddodd pennaeth y milwyr iddo ddogn o fwyd, a rhodd, a'i ollwng ymaith.
6 Aeth Jeremeia i Mispa at Gedaleia fab Ahicam, ac aros gydag ef ymhlith y bobl oedd wedi eu gadael yn y wlad.
7 Pan glywodd holl swyddogion y lluoedd, a'r milwyr oedd ar hyd y wlad, fod brenin Babilon wedi gosod Gedaleia fab Ahicam i arolygu'r wlad, ac i fwrw golwg dros y rhai tlawd, yn wŷr, gwragedd a phlant, oedd heb eu caethgludo i Fabilon,
8 fe ddaethant at Gedaleia i Mispa. Daeth Ismael fab Nethaneia, Johanan a Jonathan, meibion Carea, a Seraia fab Tanhumeth, a meibion Effai o Netoffa, a Jesaneia mab y Maachathiad, y rhain i gyd a'u milwyr;
9 a thyngodd Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan wrthynt ac wrth eu milwyr, gan ddweud, “Peidiwch ag ofni gwasanaethu'r Caldeaid; cartrefwch yn y wlad, a gwasanaethu brenin Babilon, a bydd yn dda arnoch.
10 Byddaf fi'n byw yn Mispa, i wasanaethu'r Caldeaid a fydd yn dod atom; cewch chwi gasglu'r gwin a'r ffrwythau haf a'r olew, a'u rhoi yn eich llestri, a thrigo yn y dinasoedd a feddiannwch.”
11 Yna clywodd yr holl Iddewon oedd yn Moab, ac ymhlith Ammon ac yn Edom ac yn yr holl wledydd, fod brenin Babilon wedi gadael gweddill yn Jwda, a gosod Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan yn arolygydd arnynt;
12 a dychwelodd yr holl Iddewon o'r mannau lle gwasgarwyd hwy i Jwda, at Gedaleia yn Mispa, a chasglu stôr helaeth o win a ffrwythau haf.
13 Daeth Johanan fab Carea, a holl swyddogion y lluoedd oedd ar hyd y wlad, at Gedaleia yn Mispa,
14 a dweud wrtho, “A wyddost ti fod Baalis brenin yr Ammoniaid wedi anfon Ismael fab Nethaneia i'th ladd di?” Ond ni chredai Gedaleia fab Ahicam hwy.
15 A dywedodd Johanan fab Carea yn gyfrinachol wrth Gedaleia yn Mispa, “Da ti, gad imi fynd, heb yn wybod i neb, a lladd Ismael fab Nethaneia. Pam y caiff ef dy ladd di, a gwasgaru'r holl Iddewon a ymgasglodd atat, a pheri i'r gweddill yn Jwda ddarfod?”
16 Ond dywedodd Gedaleia fab Ahicam wrth Johanan fab Carea, “Paid â gwneud hynny, oherwydd yr wyt yn dweud celwydd am Ismael.”