Jeremeia 19 BCN

Dryllio'r Ystên

1 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Dos a phryn ystên bridd o waith crochenydd, a chymer rai o blith henuriaid y bobl a'r offeiriaid,

2 a dos allan i ddyffryn Ben-hinnom wrth fynedfa Porth Harsith, a chyhoedda yno y geiriau a fynegaf wrthyt,

3 a dweud, ‘Clywch air yr ARGLWYDD, frenhinoedd Jwda a phreswylwyr Jerwsalem. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Byddaf yn dwyn y fath ddrwg ar y lle hwn nes bod clustiau pwy bynnag a glyw amdano yn merwino.

4 “ ‘Am iddynt fy ngwrthod, a chamddefnyddio'r lle hwn ac arogldarthu ynddo i dduwiau eraill nad oeddent yn eu hadnabod, hwy na'u hynafiaid na brenhinoedd Jwda, a llenwi'r lle â gwaed y rhai dieuog,

5 ac adeiladu uchelfeydd i Baal, i losgi eu meibion yn y tân fel poethoffrwm i Baal, peth na orchmynnais, na'i lefaru, ac na ddaeth i'm meddwl—

6 am hynny, wele'r dyddiau'n dod, medd yr ARGLWYDD, pryd na elwir y lle hwn mwyach yn Toffet nac yn ddyffryn Ben-hinnom, ond yn ddyffryn y lladdfa.

7 “ ‘Gwnaf gyngor Jwda a Jerwsalem yn ofer yn y lle hwn, a pharaf i'r bobl syrthio trwy'r cleddyf o flaen eu gelynion, a mynd i afael y rhai sy'n ceisio'u bywyd; rhof eu celanedd yn fwyd i adar y nefoedd a bwystfilod gwyllt.

8 Gwnaf y ddinas hon yn arswyd ac yn syndod, a bydd pawb sy'n mynd heibio yn arswydo ac yn synnu at ei holl glwyfau.

9 Gwnaf iddynt fwyta cnawd eu meibion a chnawd eu merched; bwytânt gnawd ei gilydd yn y gwarchae ac yn y cyfyngder a ddygir arnynt gan eu gelynion a'r rhai sy'n ceisio'u bywyd.’

10 “Yna fe ddrylli'r ystên yng ngŵydd y gwŷr a aeth gyda thi,

11 a dweud wrthynt, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Drylliaf y bobl hyn a'r ddinas hon, fel y dryllir llestr y crochenydd, ac ni ellir ei gyfannu mwyach. Fe gleddir cyrff yn Toffet o ddiffyg lle arall i'w claddu.

12 Felly y gwnaf i'r lle hwn a'i breswylwyr, medd yr ARGLWYDD, i beri i'r ddinas hon fod fel Toffet.

13 A bydd tai Jerwsalem a thai brenhinoedd Jwda fel mangre Toffet, yn halogedig—yr holl dai lle bu arogldarthu ar y to i holl lu'r nefoedd, a lle bu tywallt diodoffrwm i dduwiau eraill.’ ”

14 Daeth Jeremeia o Toffet, lle'r oedd yr ARGLWYDD wedi ei anfon i broffwydo, a safodd yng nghyntedd tŷ'r ARGLWYDD, a llefarodd wrth yr holl bobl,

15 “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘Dyma fi'n dwyn ar y ddinas hon, ac ar ei holl drefi, yr holl ddrwg a leferais yn eu herbyn, am iddynt ystyfnigo a gwrthod gwrando ar fy ngeiriau.’ ”