Jeremeia 12 BCN

Jeremeia'n Holi'r ARGLWYDD

1 Cyfiawn wyt, ARGLWYDD, pan ddadleuaf â thi;er hynny, gosodaf fy achos o'th flaen:Pam y llwydda ffordd y drygionus, ac y ffynna pob twyllwr?

2 Plennaist hwy, a gwreiddiasant;tyfant a dwyn ffrwyth.Yr wyt ar flaen eu tafod, ond ymhell o'u calon.

3 Ond yr wyt yn f'adnabod i, ARGLWYDD, yn fy ngweld,ac yn profi fy meddyliau tuag atat.Didola hwy fel defaid i'r lladdfa,a'u corlannu erbyn diwrnod lladd.

4 Pa hyd y galara'r tir, ac y gwywa'r glaswellt ym mhob maes? O achos drygioni y rhai sy'n trigo yno, ysgubwyd ymaith anifail ac aderyn, er i'r bobl ddweud, “Ni wêl ef ein diwedd ni.”

Ateb Duw

5 “Os wyt wedi rhedeg gyda'r gwŷr traed, a hwythau'n dy flino,pa fodd y cystedli â meirch?Ac os wyt yn baglu mewn gwlad rwydd,pa fodd y llwyddi yng ngwlad wyllt yr Iorddonen?”

6 “Oherwydd y mae hyd yn oed dy dylwyth a'th deulu dy hun wedi dy dwyllo; buont yn galw'n daer ar dy ôl; paid â'u coelio, er iddynt ddweud geiriau teg wrthyt.”

7 “Gadewais fy nhŷ, rhois heibio fy nhreftadaeth,rhois anwylyd fy nghalon yn llaw ei gelynion.

8 Aeth fy nhreftadaeth yn fy ngolwg fel llew yn y coed;y mae'n codi ei llais yn f'erbyn; am hynny yr wyf yn ei chasáu.

9 Onid yw fy nhreftadaeth i mi fel aderyn brith,a'r adar yn ymgasglu yn ei erbyn?Casglwch holl fwystfilod y maes, a'u dwyn i fwyta.

10 Y mae bugeiliaid lawer wedi distrywio fy ngwinllan,a sathru ar fy rhandir;gwnaethant fy rhandir dirion yn anial diffaith.

11 Gwnaethant hi'n anrhaith, ac fe alara'r anrheithiedig wrthyf;anrheithiwyd yr holl wlad, ac nid oes neb yn malio.

12 Daw dinistrwyr ar holl foelydd yr anialwch;y mae cleddyf yr ARGLWYDD yn difa'r wlad o'r naill ben i'r llall;nid oes heddwch i un cnawd.

13 Y maent yn hau gwenith ac yn medi drain,yn ymlâdd heb elwa dim;yn cael eu siomi yn eu cynhaeaf,oherwydd angerdd llid yr ARGLWYDD.”

14 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am fy holl gymdogion drwg, sy'n ymyrryd â'r etifeddiaeth a roddais i'm pobl Israel i'w meddiannu: “Rwyf am eu diwreiddio o'u tir, a thynnu tŷ Jwda o'u plith.

15 Ac yna, wedi i mi eu diwreiddio, fe drugarhaf wrthynt drachefn, a'u hadfer bob un i'w etifeddiaeth a'i dir.

16 Os dysgant yn drwyadl ffyrdd fy mhobl, a thyngu i'm henw, ‘Byw yw'r ARGLWYDD’, fel y dysgasant fy mhobl i dyngu i Baal, yna sefydlir hwy yng nghanol fy mhobl.

17 Ond os na wrandawant, yna'n sicr fe ddiwreiddiaf a llwyr ddinistrio'r genedl honno,” medd yr ARGLWYDD.