Jeremeia 14 BCN

Y Sychder Mawr

1 Dyma air yr ARGLWYDD at Jeremeia ynghylch y sychder:

2 “Y mae Jwda'n galaru, a'i phyrth yn llesg;y maent yn cwynfan ar lawr, a chri Jerwsalem yn esgyn fry.

3 Y mae'r pendefigion yn anfon y gweision i gyrchu dŵr;dônt at y ffosydd a'u cael yn sych,dychwelant a'u llestri'n wag;mewn cywilydd a dryswch fe guddiant eu hwynebau.

4 Oherwydd craciodd y pridd am na ddaeth glaw i'r wlad;mewn cywilydd cuddiodd yr amaethwyr eu hwynebau.

5 Y mae'r ewig yn bwrw llwdn yn y maes, ac yn ei adael am nad oes porfa;

6 y mae'r asynnod gwyllt yn sefyll ar y moelydd uchel, ac yn yfed gwynt fel bleiddiaid;pylodd eu llygaid am nad oes gwellt.”

7 “Yn ddiau, er i'n drygioni dystio yn ein herbyn,O ARGLWYDD, gweithreda er mwyn dy enw.Y mae ein gwrthgilio'n aml, pechasom yn dy erbyn.

8 Gobaith Israel, a'i geidwad yn awr ei adfyd,pam y byddi fel dieithryn yn y tir,fel ymdeithydd yn lledu pabell i aros noson?

9 Pam y byddi fel un mewn syndod,fel un cryf yn methu achub?Ond eto yr wyt yn ein mysg ni, ARGLWYDD;dy enw di a roddwyd arnom; paid â'n gadael.”

10 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth y bobl hyn:“Mor hoff ganddynt yw crwydro heb atal eu traed;am hynny, ni fyn yr ARGLWYDD mohonynt,fe gofia eu drygioni yn awr, a chosbi eu pechodau.”

11 Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Paid â gweddïo dros les y bobl hyn.

12 Pan ymprydiant, ni wrandawaf ar eu cri; pan aberthant boethoffrwm a bwydoffrwm, ni fynnaf hwy; ond difethaf hwy â'r cleddyf a newyn a haint.”

13 Dywedais innau, “O fy Arglwydd DDUW, wele'r proffwydi yn dweud wrthynt, ‘Ni welwch gleddyf, ni ddaw newyn arnoch, ond fe rof i chwi wir heddwch yn y lle hwn.’ ”

14 A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Proffwydo celwyddau yn fy enw i y mae'r proffwydi; nid anfonais hwy, na gorchymyn iddynt, na llefaru wrthynt. Proffwydant i chwi weledigaethau gau, a dewiniaeth ffôl, a thwyll eu dychymyg eu hunain.

15 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y proffwydi sy'n proffwydo yn fy enw er nad anfonais hwy, sy'n dweud na bydd cleddyf na newyn yn y wlad hon: ‘Trwy'r cleddyf a newyn y difethir y proffwydi hynny.

16 Oherwydd y newyn a'r cleddyf, teflir allan i heolydd Jerwsalem y bobl y proffwydir iddynt, heb neb i'w claddu hwy eu hunain na'u gwragedd na'u meibion na'u merched. Tywalltaf eu drygioni arnynt.’ ”

17 “A dywedi wrthynt y gair hwn:‘Difered fy llygaid ddagrau, nos a dydd heb beidio.Daeth briw enbyd i'r wyryf, merch fy mhobl;ergyd drom iawn.

18 Os af i'r maes, yno y mae'r cyrff a laddwyd â'r cleddyf.Os af i'r ddinas, yno y mae'r rhai a nychwyd gan y newyn.Y mae'r proffwyd hefyd a'r offeiriad yn crwydro'r wlad,a heb ddeall.’ ”

Y Bobl yn Ymbil ar yr ARGLWYDD

19 A wrthodaist ti Jwda yn llwyr? A ffieiddiaist ti Seion?Pam y trewaist ni heb fod inni iachâd?Disgwyl yr oeddem am heddwch, ond ni ddaeth daioni;am amser iachâd, ond dychryn a ddaeth.

20 Cydnabyddwn, ARGLWYDD, ein drygioni,a chamwedd ein hynafiaid;yn wir, yr ydym wedi pechu yn dy erbyn.

21 Ond oherwydd dy enw, paid â'n ffieiddio ni,na dirmygu dy orsedd ogoneddus;cofia dy gyfamod â ni, paid â'i dorri.

22 A oes neb ymhlith gau dduwiau'r cenhedloedd a rydd lawogydd?A rydd y nefoedd ei hun gawodydd?Na, ond ti, yr ARGLWYDD ein Duw,ynot ti yr hyderwn, ti yn unig a wnei'r pethau hyn oll.