Jeremeia 43 BCN

Cymryd Jeremeia i'r Aifft

1 Pan orffennodd Jeremeia lefaru wrth y bobl yr holl eiriau a anfonodd yr ARGLWYDD eu Duw atynt drwyddo ef,

2 atebodd Asareia fab Hosaia a Johanan fab Carea a'r holl rai sarhaus, a dweud wrth Jeremeia, “Dweud celwydd yr wyt; ni orchmynnodd yr ARGLWYDD ein Duw iti ddweud, ‘Peidiwch â mynd i fyw i'r Aifft.’

3 Baruch fab Nereia sydd wedi dy annog di yn ein herbyn, er mwyn ein rhoi yng ngafael y Caldeaid, iddynt hwy ein lladd neu ein caethgludo i Fabilon.”

4 Ac ni wrandawodd Johanan fab Carea, a swyddogion y llu a'r bobl, ar lais yr ARGLWYDD, i aros yn nhir Jwda.

5 Ond cymerodd Johanan fab Carea a swyddogion y llu holl weddill Jwda, a oedd wedi dychwelyd i drigo yng ngwlad Jwda o blith yr holl genhedloedd y gwasgarwyd hwy yn eu plith—

6 y gwŷr, y gwragedd a'r plant, merched y brenin a phawb yr oedd Nebusaradan, pennaeth y gwylwyr, wedi eu gadael gyda Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan; a hefyd y proffwyd Jeremeia a Baruch fab Nereia.

7 Ac aethant i wlad yr Aifft, heb wrando ar lais yr ARGLWYDD, a chyrraedd Tahpanhes.

8 Daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia yn Tahpanhes:

9 “Cymer gerrig mawr, ac yng ngŵydd pobl Jwda gosod hwy mewn morter yn y palmant wrth ddrws tŷ Pharo yn Tahpanhes,

10 a dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Dyma fi'n anfon i gyrchu fy ngwas, Nebuchadnesar brenin Babilon, a chodaf ei orsedd ar y cerrig hyn a osodais, ac fe daena ef ei ortho drostynt.

11 Yna fe ddaw a tharo gwlad yr Aifft, gan ladd y rhai sydd i'w lladd, a chaethiwo'r rhai sydd i fynd i gaethiwed, a rhoi i'r cleddyf y rhai sydd i'w rhoi i'r cleddyf.

12 Bydd yn cynnau tân yn nhemlau duwiau'r Aifft ac yn eu llosgi, a chario'r duwiau ymaith. A bydd yn glanhau gwlad yr Aifft fel y bydd bugail yn glanhau ei wisg o'r llau; ac yna'n mynd ymaith mewn heddwch.

13 Bydd yn malu'r colofnau yn Nheml yr Haul yng ngwlad yr Aifft, ac yn llosgi temlau duwiau'r Aifft â thân.’ ”