1 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Wele, mi godaf wynt dinistriolyn erbyn Babilon a phreswylwyr Caldea.
2 Anfonaf nithwyr i Fabilon;fe'i nithiant, a gwacáu ei thir;canys dônt yn ei herbyn o bob tu yn nydd ei blinder.
3 Na thynned y saethwr ei fwa,na gwisgo'i lurig.Peidiwch ag arbed ei gwŷr ifainc,difethwch yn llwyr ei holl lu.
4 Syrthiant yn farw yn nhir y Caldeaid,wedi eu trywanu yn ei heolydd hi.
5 Canys ni adewir Israel na Jwda yn weddwgan eu Duw, gan ARGLWYDD y Lluoedd;ond y mae gwlad y Caldeaid yn llawn euogrwyddyn erbyn Sanct Israel.
6 Ffowch o ganol Babilon,achubed pob un ei hunan.Peidiwch â chymryd eich difetha gan ei drygioni hi,canys amser dial yw hwn i'r ARGLWYDD;y mae ef yn talu'r pwyth iddi hi.
7 Cwpan aur oedd Babilon yn llaw'r ARGLWYDD,yn meddwi'r holl ddaear;byddai'r cenhedloedd yn yfed o'i gwin,a'r cenhedloedd felly'n mynd yn ynfyd.
8 Yn ddisymwth syrthiodd Babilon, a drylliwyd hi;udwch drosti!Cymerwch falm i'w dolur,i edrych a gaiff hi ei hiacháu.
9 Ceisiem iacháu Babilon, ond ni chafodd ei hiacháu;gadewch hi, ac awn bawb i'w wlad.Canys cyrhaeddodd ei barnedigaeth i'r nefoedd,a dyrchafwyd hi hyd yr wybren.
10 Bu i'r ARGLWYDD ein cyfiawnhau.Dewch, traethwn yn Seionwaith yr ARGLWYDD ein Duw.
11 “Hogwch y saethau. Llanwch y cewyll.Cynhyrfodd yr ARGLWYDD ysbryd brenhinoedd Media;canys y mae ei fwriad yn erbyn Babilon, i'w dinistrio.Dial yr ARGLWYDD yw hyn, dial am ei deml.
12 Codwch faner yn erbyn muriau Babilon;cryfhewch y wyliadwriaeth,a darparu gwylwyr a gosod cynllwynwyr;oherwydd bwriadodd a chwblhaodd yr ARGLWYDDyr hyn a lefarodd am drigolion Babilon.
13 Ti, ddinas aml dy drysorau,sy'n trigo gerllaw dyfroedd lawer,daeth diwedd arnat ac ar dy gribddeilio.
14 Tyngodd ARGLWYDD y Lluoedd iddo'i hun,‘Diau imi dy lenwi â phoblmor niferus â'r locustiaid;ond cenir cân floddest yn dy erbyn.’ ”
15 Gwnaeth ef y ddaear trwy ei nerth,sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb,a thrwy ei ddeall estynnodd y nefoedd.
16 Pan rydd ei lais, daw twrf dyfroedd yn y nefoedd,bydd yn peri i darth godi o eithafoedd y ddaear,yn gwneud mellt â'r glaw, ac yn dwyn allan wyntoedd o'i ystordai.
17 Ynfyd yw pob un, a heb wybodaeth.Cywilyddir pob eurych gan ei eilun,canys celwydd yw ei ddelwau tawdd,ac nid oes anadl ynddynt.
18 Oferedd ŷnt, a gwaith i'w wawdio;yn amser eu cosbi fe'u difethir.
19 Nid yw Duw Jacob fel y rhain,canys ef yw lluniwr pob peth,ac Israel yw ei lwyth dewisol. ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.
20 “Bwyell cad wyt ti i mi, ac erfyn rhyfel. thi y drylliaf y cenhedloedd,ac y dinistriaf deyrnasoedd;
21 â thi y drylliaf y march a'i farchog,â thi y drylliaf y cerbyd a'r cerbydwr;
22 â thi y drylliaf ŵr a gwraig,â thi y drylliaf henwr a llanc,â thi y drylliaf ŵr ifanc a morwyn;
23 â thi y drylliaf y bugail a'i braidd,â thi y drylliaf yr amaethwr a'i wedd,â thi y drylliaf lywodraethwyr a'u swyddogion.
24 “Talaf yn ôl i Fabilon ac i holl breswylwyr Caldea yn eich golwg chwi am yr holl ddrwg a wnaethant i Seion,” medd yr ARGLWYDD.
25 “Dyma fi yn dy erbyn di, fynydd dinistr,” medd yr ARGLWYDD,“dinistrydd yr holl ddaear.Estynnaf fy llaw yn dy erbyn,a'th dreiglo i lawr o'r creigiau,a'th wneud yn fynydd llosgedig.
26 Ni cheir ohonot faen congl na charreg sylfaen,ond byddi'n anialwch parhaol,” medd yr ARGLWYDD.
27 “Codwch faner yn y tir,canwch utgorn ymysg y cenhedloedd,neilltuwch genhedloedd i ryfela yn ei herbyn;galwch yn ei herbyn y teyrnasoedd,Ararat, Minni ac Ascenas.Gosodwch gadlywydd yn ei herbyn,dygwch ymlaen feirch, mor niferus â'r locustiaid heidiog.
28 Neilltuwch genhedloedd yn ei herbyn,brenhinoedd Media a'i llywodraethwyr a'i swyddogion,a holl wledydd eu hymerodraeth.
29 Bydd y ddaear yn crynu ac yn gwingo mewn poen,oherwydd fe saif bwriadau'r ARGLWYDD yn erbyn Babilon,i wneud gwlad Babilon yn anialdir, heb neb yn trigo ynddo.
30 Peidiodd cedyrn Babilon ag ymladd;llechant yn eu hamddiffynfeydd;pallodd eu nerth, aethant fel gwragedd;llosgwyd eu tai, a thorrwyd barrau'r pyrth.
31 Rhed negesydd i gyfarfod negesydd,a chennad i gyfarfod cennad,i fynegi i frenin Babilonfod ei ddinas wedi ei goresgyn o'i chwr.
32 Enillwyd y rhydau,llosgwyd y corsydd â thân,a daeth braw ar wŷr y gwarchodlu.
33 Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel:‘Y mae merch Babilon fel llawr dyrnu adeg ei fathru;ar fyrder daw amser ei chynhaeaf.’ ”
34 “Fe'm hyswyd ac fe'm hysigwydgan Nebuchadnesar brenin Babilon;bwriodd fi heibio fel llestr gwag;fel draig fe'm llyncodd;llanwodd ei fol â'm rhannau danteithiol,a'm chwydu allan.”
35 Dyweded preswylydd Seion,“Bydded ar Fabilon y trais a wnaed arnaf fi ac ar fy nghnawd!”Dyweded Jerwsalem,“Bydded fy ngwaed ar drigolion Caldea!”
36 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Dyma fi'n dadlau dy achos, ac yn dial drosot;disbyddaf ei môr hi, a sychaf ei ffynhonnau.
37 Bydd Babilon yn garneddau, yn drigfa i siacaliaid;yn arswyd ac yn syndod, heb neb i breswylio ynddi.
38 “Rhuant ynghyd fel llewod,a chwyrnu fel cenawon llew.
39 Paraf i'w llymeitian ddarfod mewn twymyn,meddwaf hwy nes y byddant yn chwil,ac yn syrthio i drymgwsg diderfyn, diddeffro,” medd yr ARGLWYDD.
40 “Dygaf hwy i waered, fel ŵyn i'r lladdfa,fel hyrddod neu fychod geifr.
41 “O fel y goresgynnwyd Babilonac yr enillwyd balchder yr holl ddaear!O fel yr aeth Babilon yn syndod i'r cenhedloedd!
42 Ymchwyddodd y môr yn erbyn Babilon,a'i gorchuddio â'i donnau terfysglyd.
43 Aeth ei dinasoedd yn ddiffaith,yn grastir ac anialdir,heb neb yn trigo ynddyntnac unrhyw un yn ymdaith trwyddynt.
44 Cosbaf Bel ym Mabilon,a thynnaf o'i safn yr hyn a lyncodd;ni ddylifa'r cenhedloedd ato ef mwyach,canys syrthiodd muriau Babilon.
45 Ewch allan ohoni, fy mhobl;achubed pob un ei hunan rhag angerdd llid yr ARGLWYDD.
46 “Gochelwch rhag i'ch calon lwfrhau, a pheidiwch ag ofni rhag chwedlau a daenir drwy'r wlad. Clywir si un flwyddyn, a si drachefn y flwyddyn wedyn; ceir trais yn y wlad a llywodraethwr yn erbyn llywodraethwr.
47 Oherwydd y mae'r dyddiau'n dod y cosbaf ddelwau Babilon; bydd yr holl wlad yn waradwydd, a'i lladdedigion i gyd yn syrthio yn ei chanol.
48 Yna fe orfoledda'r nefoedd a'r ddaear, a phob peth sydd ynddynt, yn erbyn Babilon, oherwydd daw anrheithwyr o'r gogledd yn ei herbyn,” medd yr ARGLWYDD.
49 “Rhaid i Fabilon syrthio oherwydd lladdedigion Israel, fel y syrthiodd lladdedigion yr holl ddaear oherwydd Babilon.
50 Ewch heb oedi, chwi y rhai a ddihangodd rhag y cleddyf; cofiwch yr ARGLWYDD yn y pellteroedd, galwch Jerwsalem i gof.
51 ‘Gwaradwyddwyd ni,’ meddwch, ‘pan glywsom gerydd, gorchuddiwyd ein hwyneb â gwarth, canys daeth estroniaid i gynteddoedd sanctaidd tŷ'r ARGLWYDD.’
52 “Am hynny, dyma'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “y cosbaf ei delwau ac y griddfana'r rhai clwyfedig trwy'r holl wlad.
53 Er i Fabilon ddyrchafu i'r nefoedd, a diogelu ei hamddiffynfa uchel, daw ati anrheithwyr oddi wrthyf fi,” medd yr ARGLWYDD.
54 “Clyw! Daw gwaedd o Fabilon, dinistr mawr o wlad y Caldeaid.
55 Oherwydd anrheithia'r ARGLWYDD Fabilon, a distewi ei sŵn mawr. Bydd ei thonnau'n rhuo fel dyfroedd yn dygyfor, a'i thwrf yn codi.
56 Oblegid daw anrheithiwr yn ei herbyn, yn erbyn Babilon; delir ei chedyrn, dryllir eu bwa, oherwydd bydd yr ARGLWYDD, Duw dial, yn talu iddynt yn llawn.
57 Meddwaf ei thywysogion a'i doethion, ei llywodraethwyr a'i swyddogion, a'i gwŷr cedyrn; cysgant hun ddiderfyn, ddiddeffro,” medd y Brenin—ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.
58 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:“Dryllir i'r llawr furiau llydan Babilon;llosgir ei phyrth uchel â thân;yn ofer y llafuriodd y bobloedd,a bydd ymdrech y cenhedloedd yn gorffen mewn tân.”
59 Dyma hanes gorchymyn y proffwyd Jeremeia i Seraia fab Nereia, fab Maaseia, pan aeth i Fabilon gyda Sedeceia brenin Jwda, yn y bedwaredd flwyddyn o'i deyrnasiad. Swyddog cyflenwi oedd Seraia.
60 Ysgrifennodd Jeremeia mewn llyfr yr holl aflwydd oedd i ddod ar Fabilon, yr holl eiriau hyn a ysgrifennwyd yn erbyn Babilon.
61 A dywedodd Jeremeia wrth Seraia, “Pan ddoi i Fabilon, edrych ar hwn, a darllen yr holl eiriau hyn,
62 ac yna dywed, ‘O ARGLWYDD, lleferaist yn erbyn y lle hwn i'w ddinistrio, fel na byddai ynddo na dyn nac anifail yn byw, ond iddo fod yn anghyfannedd tragwyddol.’
63 Pan orffenni ddarllen y llyfr, rhwyma garreg wrtho a'i fwrw i ganol afon Ewffrates,
64 a dywed, ‘Fel hyn y suddir Babilon; ni fydd yn codi mwyach wedi'r dinistr a ddygaf arni; a diffygiant.’ ” Dyma ddiwedd geiriau Jeremeia.