9 Dygir arian gyr o Tarsis, ac aur o Uffas,gwaith y saer a dwylo'r eurych;a'u gwisg o ddeunydd fioled a phorffor—gwaith crefftwyr ydyw i gyd.
10 Ond yr ARGLWYDD yw'r gwir Dduw;ef yw'r Duw byw a'r brenin tragwyddol;y mae'r ddaear yn crynu rhag ei lid,ac ni all y cenhedloedd ddioddef ei ddicter.
11 Fel hyn y dywedwch wrthynt: “Y duwiau na wnaethant y nefoedd a'r ddaear, fe gânt eu difa o'r ddaear ac oddi tan y nefoedd.”
12 Gwnaeth ef y ddaear trwy ei nerth,sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb,estynnodd y nefoedd trwy ei ddeall.
13 Pan rydd ei lais, daw twrf dyfroedd yn y nefoedd,fe bair godi tarth o eithafoedd y ddaear.Gwna fellt gyda'r glaw, a dwg allan wyntoedd o'i ystordai.
14 Ynfyd yw pob un, a heb wybodaeth.Cywilyddir pob eurych gan ei eilun,canys celwydd yw ei ddelwau tawdd,ac nid oes anadl ynddynt.
15 Oferedd ŷnt, a gwaith i'w wawdio;yn amser eu cosbi fe'u difethir.