2 “Clywch eiriau'r cyfamod hwn, a llefarwch wrth bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem,
3 a dweud wrthynt, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel: Melltith ar y sawl na wrendy ar eiriau'r cyfamod hwn,
4 a orchmynnais i'ch hynafiaid y dydd y dygais hwy allan o'r Aifft, o'r ffwrnais haearn, a dweud, “Gwrandewch arnaf, a gwnewch yn unol â'r hyn a orchmynnaf i chwi; a byddwch yn bobl i mi, a byddaf finnau'n Dduw i chwi.”
5 Fel hyn y gwireddir y llw a dyngais i'ch hynafiaid, i roi iddynt wlad yn llifeirio o laeth a mêl, fel y mae heddiw.’ ” Atebais innau, “Amen, ARGLWYDD.”
6 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Cyhoedda'r holl eiriau hyn yn ninasoedd Jwda ac yn heolydd Jerwsalem, a dywed, ‘Clywch eiriau'r cyfamod hwn, a'u gwneud.
7 Oherwydd rhybuddiais eich hynafiaid o'r dydd y dygais hwy o'r Aifft hyd y dydd hwn; rhybuddiais hwy yn ddifrifol, a dweud, “Gwrandewch arnaf.”
8 Ond ni wrandawsant, nac estyn clust i glywed, ond rhodiodd pob un yn ôl ystyfnigrwydd ei galon ddrygionus. Felly dygais arnynt holl eiriau'r cyfamod hwn y gorchmynnais iddynt ei wneud ond na wnaethant.’ ”