13 Dywedais innau, “O fy Arglwydd DDUW, wele'r proffwydi yn dweud wrthynt, ‘Ni welwch gleddyf, ni ddaw newyn arnoch, ond fe rof i chwi wir heddwch yn y lle hwn.’ ”
14 A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Proffwydo celwyddau yn fy enw i y mae'r proffwydi; nid anfonais hwy, na gorchymyn iddynt, na llefaru wrthynt. Proffwydant i chwi weledigaethau gau, a dewiniaeth ffôl, a thwyll eu dychymyg eu hunain.
15 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y proffwydi sy'n proffwydo yn fy enw er nad anfonais hwy, sy'n dweud na bydd cleddyf na newyn yn y wlad hon: ‘Trwy'r cleddyf a newyn y difethir y proffwydi hynny.
16 Oherwydd y newyn a'r cleddyf, teflir allan i heolydd Jerwsalem y bobl y proffwydir iddynt, heb neb i'w claddu hwy eu hunain na'u gwragedd na'u meibion na'u merched. Tywalltaf eu drygioni arnynt.’ ”
17 “A dywedi wrthynt y gair hwn:‘Difered fy llygaid ddagrau, nos a dydd heb beidio.Daeth briw enbyd i'r wyryf, merch fy mhobl;ergyd drom iawn.
18 Os af i'r maes, yno y mae'r cyrff a laddwyd â'r cleddyf.Os af i'r ddinas, yno y mae'r rhai a nychwyd gan y newyn.Y mae'r proffwyd hefyd a'r offeiriad yn crwydro'r wlad,a heb ddeall.’ ”
19 A wrthodaist ti Jwda yn llwyr? A ffieiddiaist ti Seion?Pam y trewaist ni heb fod inni iachâd?Disgwyl yr oeddem am heddwch, ond ni ddaeth daioni;am amser iachâd, ond dychryn a ddaeth.