8 Gobaith Israel, a'i geidwad yn awr ei adfyd,pam y byddi fel dieithryn yn y tir,fel ymdeithydd yn lledu pabell i aros noson?
9 Pam y byddi fel un mewn syndod,fel un cryf yn methu achub?Ond eto yr wyt yn ein mysg ni, ARGLWYDD;dy enw di a roddwyd arnom; paid â'n gadael.”
10 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth y bobl hyn:“Mor hoff ganddynt yw crwydro heb atal eu traed;am hynny, ni fyn yr ARGLWYDD mohonynt,fe gofia eu drygioni yn awr, a chosbi eu pechodau.”
11 Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Paid â gweddïo dros les y bobl hyn.
12 Pan ymprydiant, ni wrandawaf ar eu cri; pan aberthant boethoffrwm a bwydoffrwm, ni fynnaf hwy; ond difethaf hwy â'r cleddyf a newyn a haint.”
13 Dywedais innau, “O fy Arglwydd DDUW, wele'r proffwydi yn dweud wrthynt, ‘Ni welwch gleddyf, ni ddaw newyn arnoch, ond fe rof i chwi wir heddwch yn y lle hwn.’ ”
14 A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Proffwydo celwyddau yn fy enw i y mae'r proffwydi; nid anfonais hwy, na gorchymyn iddynt, na llefaru wrthynt. Proffwydant i chwi weledigaethau gau, a dewiniaeth ffôl, a thwyll eu dychymyg eu hunain.