13 ‘Yn wir, gwnaeth fy mhobl ddau ddrwg:fe'm gadawsant i, ffynnon y dyfroedd byw,a chloddio iddynt eu hunain bydewau,pydewau toredig, na allant ddal dŵr.’ ”
14 “Ai caethwas yw Israel? Neu a anwyd ef yn gaeth?Pam, ynteu, yr aeth yn ysbail?
15 Rhuodd y llewod a chodi eu llais yn ei erbyn.Gwnaethant ei dir yn ddiffaith,a'i ddinasoedd yn anghyfannedd heb drigiannydd.
16 Hefyd, torrodd meibion Noff a Tahpanhes dy gorun.
17 Oni ddygaist hyn arnat dy hun,trwy adael yr ARGLWYDD dy Dduwpan oedd yn d'arwain yn y ffordd?
18 Yn awr, beth a wnei di yn mynd i'r Aifft,i yfed dyfroedd y Neil,neu'n mynd i Asyria, i yfed dyfroedd yr Ewffrates?
19 Fe'th gosbir gan dy ddrygioni dy hun,a'th geryddu gan dy wrthgiliad.Ystyria a gwêl mai drwg a chwerwyw i ti adael yr ARGLWYDD dy Dduw,a pheidio â'm hofni,” medd yr Arglwydd, DUW y Lluoedd.