16 Hefyd, torrodd meibion Noff a Tahpanhes dy gorun.
17 Oni ddygaist hyn arnat dy hun,trwy adael yr ARGLWYDD dy Dduwpan oedd yn d'arwain yn y ffordd?
18 Yn awr, beth a wnei di yn mynd i'r Aifft,i yfed dyfroedd y Neil,neu'n mynd i Asyria, i yfed dyfroedd yr Ewffrates?
19 Fe'th gosbir gan dy ddrygioni dy hun,a'th geryddu gan dy wrthgiliad.Ystyria a gwêl mai drwg a chwerwyw i ti adael yr ARGLWYDD dy Dduw,a pheidio â'm hofni,” medd yr Arglwydd, DUW y Lluoedd.
20 “Erstalwm yr wyt wedi torri dy iau a dryllio dy rwymau,a dweud, ‘Ni wasanaethaf’.Canys ar bob bryn uchel a than bob pren gwyrddlas,plygaist i buteinio.
21 Plennais di yn winwydden bêr, o had glân pur;sut ynteu y'th drowyd yn blanhigyn afrywiog i mi,yn winwydden estron?
22 Pe bait yn ymolchi â neitr, a chymryd llawer o sebon,byddai ôl dy gamwedd yn aros ger fy mron,” medd yr ARGLWYDD.