2 “Dos, a chyhoedda yng nghlyw Jerwsalem, a dywed:“ ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:Cofiaf di am dy deyrngarwch yn dy ieuenctid,ac am dy serch yn ddyweddi,ac am iti fy nghanlyn yn y diffeithwch,mewn tir heb ei hau.
3 Yr oedd Israel yn gysegredig i'r ARGLWYDD,ac yn flaenffrwyth ei gnwd.Euog oedd pwy bynnag a'i bwytaodd;daeth dinistr arno,’ ” medd yr ARGLWYDD.
4 Clywch air yr ARGLWYDD, O dŷ Jacob, a holl deuluoedd tŷ Israel.
5 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Pa fai a gafodd eich hynafiaid ynof, i ymbellhau oddi wrthyf,i rodio ar ôl oferedd, a mynd yn ofer?
6 Ni ddywedasant, ‘Ple mae'r ARGLWYDD a'n dygodd i fyny o'r Aifft,a'n harwain yn y diffeithwch,mewn tir anial, llawn o dyllau,tir sychder a thywyllwch dudew,tir nas troediwyd erioed, ac na thrigodd neb ynddo?’
7 Dygais chwi i wlad gnydfawr,i fwyta ei ffrwyth a'i daioni;ond daethoch i mewn a halogi fy nhir,a gwneud fy etifeddiaeth yn ffieidd-dra.
8 Ni ddywedodd yr offeiriaid, ‘Ple mae'r ARGLWYDD?’Ni fu i'r rhai oedd yn trin y gyfraith f'adnabod,a throseddodd y bugeiliaid yn f'erbyn;proffwydodd y proffwydi trwy Baal, gan ddilyn pethau dilesâd.”