21 Plennais di yn winwydden bêr, o had glân pur;sut ynteu y'th drowyd yn blanhigyn afrywiog i mi,yn winwydden estron?
22 Pe bait yn ymolchi â neitr, a chymryd llawer o sebon,byddai ôl dy gamwedd yn aros ger fy mron,” medd yr ARGLWYDD.
23 “Sut y gelli ddweud, ‘Nid wyf wedi fy halogi, na mynd ar ôl Baalim?’Gwêl dy ffordd yn y glyn; ystyria beth a wnaethost.Camel chwim ydwyt, yn gwibio'n ddi-drefn yn ei llwybrau;
24 asen wyllt, a'i chynefin yn yr anialwch,yn ei blys yn ffroeni'r gwynt.Pwy a atal ei nwyd?Ni flina'r un sy'n ei chwennych;fe'i cânt yn ei hamser.
25 Cadw dy droed rhag noethni, a'th lwnc rhag syched.Ond dywedaist, ‘Nid oes gobaith.Mi gerais estroniaid ac ar eu hôl hwy yr af.’ ”
26 “Fel cywilydd lleidr wedi ei ddal y cywilyddia tŷ Israel—hwy, eu brenhinoedd, a'u tywysogion,eu hoffeiriaid a'u proffwydi.
27 Dywedant wrth bren, ‘Ti yw fy nhad’,ac wrth garreg, ‘Ti a'm cenhedlodd’.Troesant ataf wegil, ac nid wyneb;ond yn awr eu hadfyd dywedant, ‘Cod, achub ni’.