25 Cadw dy droed rhag noethni, a'th lwnc rhag syched.Ond dywedaist, ‘Nid oes gobaith.Mi gerais estroniaid ac ar eu hôl hwy yr af.’ ”
26 “Fel cywilydd lleidr wedi ei ddal y cywilyddia tŷ Israel—hwy, eu brenhinoedd, a'u tywysogion,eu hoffeiriaid a'u proffwydi.
27 Dywedant wrth bren, ‘Ti yw fy nhad’,ac wrth garreg, ‘Ti a'm cenhedlodd’.Troesant ataf wegil, ac nid wyneb;ond yn awr eu hadfyd dywedant, ‘Cod, achub ni’.
28 Ple mae dy dduwiau, a wnaethost iti?Boed iddynt hwy godi os gallant dy achub yn awr dy adfyd.Oherwydd y mae dy dduwiau mor niferus â'th ddinasoedd, O Jwda.
29 Pam yr ydych yn dadlau â mi?Rydych wedi gwrthryfela yn f'erbyn, bawb ohonoch,” medd yr ARGLWYDD.
30 “Yn ofer y trewais eich plant; ni dderbyniant gerydd.Y mae eich cleddyf wedi difa'ch proffwydi, fel llew yn rheibio.
31 Chwi genhedlaeth, ystyriwch air yr ARGLWYDD.Ai anialwch a fûm i Israel, neu wlad tywyllwch?Pam y dywed fy mhobl, ‘Yr ydym ni'n rhydd;ni ddown mwyach atat ti’?