29 Pam yr ydych yn dadlau â mi?Rydych wedi gwrthryfela yn f'erbyn, bawb ohonoch,” medd yr ARGLWYDD.
30 “Yn ofer y trewais eich plant; ni dderbyniant gerydd.Y mae eich cleddyf wedi difa'ch proffwydi, fel llew yn rheibio.
31 Chwi genhedlaeth, ystyriwch air yr ARGLWYDD.Ai anialwch a fûm i Israel, neu wlad tywyllwch?Pam y dywed fy mhobl, ‘Yr ydym ni'n rhydd;ni ddown mwyach atat ti’?
32 A anghofia geneth ei thlysau, neu briodferch ei rhubanau?Eto y mae fy mhobl wedi fy anghofio i, ddyddiau di-rif.
33 “Mor dda yr wyt yn dewis dy ffordd i geisio cariadon,gan ddysgu dy ffyrdd hyd yn oed i ferched drwg.
34 Cafwyd ym mhlygion dy wisg waed einioes tlodion diniwed—ac nid yn torri i mewn y deliaist hwy—
35 ond er hyn i gyd, yr wyt yn dweud, ‘Rwy'n ddieuog; fe dry ei lid oddi wrthyf.’Ond wele, fe'th ddygaf i farn am iti ddweud, ‘Ni phechais.’