7 Dygais chwi i wlad gnydfawr,i fwyta ei ffrwyth a'i daioni;ond daethoch i mewn a halogi fy nhir,a gwneud fy etifeddiaeth yn ffieidd-dra.
8 Ni ddywedodd yr offeiriaid, ‘Ple mae'r ARGLWYDD?’Ni fu i'r rhai oedd yn trin y gyfraith f'adnabod,a throseddodd y bugeiliaid yn f'erbyn;proffwydodd y proffwydi trwy Baal, gan ddilyn pethau dilesâd.”
9 “ ‘Am hyn, fe'ch cyhuddaf drachefn,’ medd yr ARGLWYDD,‘gan gyhuddo hefyd blant eich plant.
10 Tramwywch drwy ynysoedd Chittim ac edrychwch;anfonwch i Cedar, ystyriwch a gwelwch a fu'r fath beth.
11 A fu i unrhyw genedl newid ei duwiau,a hwythau heb fod yn dduwiau?Ond rhoddodd fy mhobl eu gogoniant yn gyfnewid am bethau dilesâd.
12 O nefoedd, rhyfeddwch at hyn;arswydwch, ac ewch yn gwbl ddiffaith,’ medd yr ARGLWYDD.
13 ‘Yn wir, gwnaeth fy mhobl ddau ddrwg:fe'm gadawsant i, ffynnon y dyfroedd byw,a chloddio iddynt eu hunain bydewau,pydewau toredig, na allant ddal dŵr.’ ”