6 A byddi di, Pasur, a holl breswylwyr dy dŷ, yn mynd i gaethiwed; i Fabilon yr ei, ac yno y byddi farw, a'th gladdu—ti a'th holl gyfeillion y proffwydaist gelwydd iddynt.’ ”
7 Twyllaist fi, O ARGLWYDD, ac fe'm twyllwyd.Cryfach oeddit na mi, a gorchfygaist fi.Cyff gwawd wyf ar hyd y dydd,a phawb yn fy ngwatwar.
8 Bob tro y llefaraf ac y gwaeddaf,“Trais! Anrhaith!” yw fy llef.Canys y mae gair yr ARGLWYDD i miyn waradwydd ac yn ddirmyg ar hyd y dydd.
9 Os dywedaf, “Ni soniaf amdano,ac ni lefaraf mwyach yn ei enw”,y mae yn fy nghalon yn llosgi fel tânwedi ei gau o fewn fy esgyrn.Blinaf yn ymatal; yn wir, ni allaf.
10 Clywais sibrwd gan lawer—dychryn-ar-bob-llaw:“Cyhuddwch ef! Fe'i cyhuddwn ni ef!”Y mae pawb a fu'n heddychlon â miyn gwylio am gam gwag gennyf, ac yn dweud,“Efallai yr hudir ef, ac fe'i gorchfygwn, a dial arno.”
11 Ond y mae'r ARGLWYDD gyda mi,fel rhyfelwr cadarn;am hynny fe dramgwydda'r rhai sy'n fy erlid,ac ni orchfygant;gwaradwyddir hwy'n fawr, canys ni lwyddant,ac nid anghofir fyth eu gwarth.
12 O ARGLWYDD y Lluoedd, yr wyt yn profi'r cyfiawn,ac yn gweld y galon a'r meddwl;rho imi weld dy ddialedd arnynt,canys dadlennais i ti fy nghwyn.