10 Gosodais fy wyneb yn erbyn y ddinas hon, er drwg ac nid er da, medd yr ARGLWYDD; fe'i rhoddir yng ngafael brenin Babilon, a bydd ef yn ei llosgi â thân.’ ”
11 “Wrth dŷ brenin Jwda dywed,‘Clyw air yr ARGLWYDD.
12 Tŷ Dafydd, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:Barnwch yn uniawn yn y bore,achubwch yr ysbeiliedig o afael y gormeswr,rhag i'm llid fynd allan yn dân,a llosgi heb neb i'w ddiffodd,oherwydd eich gweithredoedd drwg.’
13 “Wele fi yn dy erbyn, ti breswylydd y dyffrynwrth graig y gwastadedd,” medd yr ARGLWYDD.“Fe ddywedwch chwi, ‘Pwy ddaw i waered yn ein herbyn?Pwy ddaw i mewn i'n gwâl?’
14 Talaf i chwi yn ôl ffrwyth eich gweithredoedd,” medd yr ARGLWYDD.“Cyneuaf dân yn ei choedwig,ac ysa bob peth o'i hamgylch.”