2 “Ymofyn â'r ARGLWYDD drosom ni, oherwydd y mae Nebuchadnesar brenin Babilon yn rhyfela yn ein herbyn. Tybed a wna yr ARGLWYDD â ni yn ôl ei holl ryfeddodau, a pheri iddo gilio ymaith oddi wrthym?”
3 Dywedodd Jeremeia wrthynt, “Dyma'r hyn a ddywedwch wrth Sedeceia:
4 ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: Wele fi'n troi arnoch chwi yr arfau rhyfel sydd yn eich dwylo i ymladd yn erbyn brenin Babilon a'r Caldeaid, sy'n gwarchae arnoch o'r tu allan i'r gaer; fe'u casglaf hwy i ganol y ddinas hon.
5 Byddaf fi fy hun yn rhyfela yn eich erbyn, a'm llaw wedi ei hestyn allan, a'm braich yn gref, mewn soriant a llid a digofaint mawr.
6 Trawaf drigolion y ddinas hon, yn ddyn ac yn anifail; byddant farw o haint mawr.
7 Ac wedi hynny, medd yr ARGLWYDD, rhof Sedeceia brenin Jwda a'i weision, a'r bobl a weddillir yn y ddinas hon wedi'r haint a'r cleddyf a'r newyn, yng ngafael Nebuchadnesar brenin Babilon, ac yng ngafael eu gelynion a'r rhai a geisiai eu heinioes. Bydd ef yn eu taro â min y cleddyf, heb dosturio wrthynt nac arbed nac estyn trugaredd.’ ”
8 “Wrth y bobl hyn hefyd dywed, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Wele fi'n gosod o'ch blaen ffordd bywyd a ffordd marwolaeth.