6 Trawaf drigolion y ddinas hon, yn ddyn ac yn anifail; byddant farw o haint mawr.
7 Ac wedi hynny, medd yr ARGLWYDD, rhof Sedeceia brenin Jwda a'i weision, a'r bobl a weddillir yn y ddinas hon wedi'r haint a'r cleddyf a'r newyn, yng ngafael Nebuchadnesar brenin Babilon, ac yng ngafael eu gelynion a'r rhai a geisiai eu heinioes. Bydd ef yn eu taro â min y cleddyf, heb dosturio wrthynt nac arbed nac estyn trugaredd.’ ”
8 “Wrth y bobl hyn hefyd dywed, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Wele fi'n gosod o'ch blaen ffordd bywyd a ffordd marwolaeth.
9 Bydd y sawl sy'n aros yn y ddinas hon yn marw drwy gleddyf neu newyn neu haint, a'r sawl sy'n mynd allan ac yn ildio i'r Caldeaid sy'n gwarchae arnoch yn byw; bydd yn arbed ei fywyd.
10 Gosodais fy wyneb yn erbyn y ddinas hon, er drwg ac nid er da, medd yr ARGLWYDD; fe'i rhoddir yng ngafael brenin Babilon, a bydd ef yn ei llosgi â thân.’ ”
11 “Wrth dŷ brenin Jwda dywed,‘Clyw air yr ARGLWYDD.
12 Tŷ Dafydd, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:Barnwch yn uniawn yn y bore,achubwch yr ysbeiliedig o afael y gormeswr,rhag i'm llid fynd allan yn dân,a llosgi heb neb i'w ddiffodd,oherwydd eich gweithredoedd drwg.’