15 A wyt yn d'ystyried dy hun yn freninoherwydd i ti gystadlu mewn cedrwydd?Oni fwytaodd dy dad, ac yfed,gan wneud cyfiawnder a barn,ac yna bu'n dda arno?
16 Barnodd ef achos y tlawd a'r anghenus,ac yna bu'n dda arno.“Onid hyn yw f'adnabod i?” medd yr ARGLWYDD.
17 Nid yw dy lygad na'th galon ond ar dy enillion anghyfiawn,i dywallt gwaed dieuog ac i dreisio a gwneud cam.
18 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda:“Ni alarant amdano, a dweud, ‘O fy mrawd! O fy nghâr!’Ni alarant amdano, a dweud, ‘O Arglwydd! O Fawrhydi!’
19 Fel claddu asyn y cleddir ef—ei lusgo a'i daflu y tu hwnt i byrth Jerwsalem.”
20 Dring i Lebanon, a gwaedda;yn Basan cod dy lef;bloeddia o Abarim,“Dinistriwyd pawb sy'n dy garu.”
21 Lleferais wrthyt yn dy wynfyd;dywedaist, “Ni wrandawaf.”Dyma dy ffordd o'th ieuenctid,ac ni wrandewaist arnaf.