25 a'th roi yng ngafael y rhai sy'n ceisio dy einioes, ac yng ngafael y rhai yr wyt yn ofni rhagddynt, sef yng ngafael Nebuchadnesar brenin Babilon, ac yn llaw y Caldeaid.
26 Fe'th fwriaf di, a'th fam a'th esgorodd, i wlad ddieithr lle ni'ch ganwyd, ac yno byddwch farw.
27 Ni ddychwelant i'r wlad yr hiraethant am ddychwelyd iddi.”
28 Ai llestr dirmygus, drylliedig yw'r dyn hwn, Coneia,teclyn heb ddim hoffus ynddo?Pam y bwriwyd hwy ymaith, ef a'i had,a'u taflu i wlad nad adwaenant?
29 Wlad! Wlad! Wlad!Clyw air yr ARGLWYDD.
30 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Cofrestrwch y gŵr hwn yn ddi-blant,gŵr na lwydda ar hyd ei oes;canys ni lwydda neb o'i had efi eistedd ar orsedd Dafydd,na llywodraethu eto yn Jwda.”