1 “Gwae chwi fugeiliaid, sydd yn gwasgaru defaid fy mhorfa ac yn eu harwain ar grwydr,” medd yr ARGLWYDD.
2 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, am y bugeiliaid sy'n bugeilio fy mhobl: “Gwasgarasoch fy mhraidd, a'u hymlid ymaith, heb wylio drostynt; ond yr wyf fi am ymweld â chwi am eich gwaith drygionus,” medd yr ARGLWYDD.
3 “Yr wyf fi am gasglu ynghyd weddill fy mhraidd o'r holl wledydd lle y gyrrais hwy, a'u dwyn drachefn i'w corlan; ac fe amlhânt yn ffrwythlon.
4 Gosodaf arnynt fugeiliaid a'u bugeilia, ac nid ofnant mwyach, na chael braw; ac ni chosbir hwy,” medd yr ARGLWYDD.
5 “Wele'r dyddiau yn dod,” medd yr ARGLWYDD,“y cyfodaf i Ddafydd Flaguryn cyfiawn,brenin a fydd yn llywodraethu'n ddoeth,yn gwneud barn a chyfiawnder yn y tir.
6 Yn ei ddyddiau ef fe achubir Jwdaac fe drig Israel mewn diogelwch;dyma'r enw a roddir iddo:‘Yr ARGLWYDD ein Cyfiawnder.’