15 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw y Lluoedd, am y proffwydi:“Wele, rhof wermod yn fwyd iddynt, a dŵr bustl yn ddiod,canys o blith proffwydi Jerwsalem aeth annuwioldeb allan trwy'r holl dir.”
16 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Peidiwch â gwrando ar eiriau'r proffwydi sy'n proffwydo i chwi, gan addo i chwi bethau ffals; y maent yn llefaru gweledigaeth o'u dychymyg eu hunain, ac nid o enau yr ARGLWYDD.
17 Parhânt i ddweud wrth y rhai sy'n dirmygu gair yr ARGLWYDD, ‘Heddwch fo i chwi’; ac wrth bob un sy'n rhodio yn ôl ystyfnigrwydd ei galon dywedant, ‘Ni ddaw arnoch niwed.’
18 “Pwy a safodd yng nghyngor yr ARGLWYDD,a gweld a chlywed ei air?Pwy a ddaliodd ar ei air, a'i wrando?
19 Wele gorwynt yr ARGLWYDD yn mynd allan yn ffyrnig,gan chwyrlïo fel tymestl,a throelli uwchben yr annuwiol.
20 Ni phaid digofaint yr ARGLWYDDnes iddo gwblhau ei fwriadau a'u cyflawni.Yn y dyddiau diwethaf y deallwch hyn yn eglur.
21 Nid anfonais y proffwydi, ond eto fe redant;ni leferais wrthynt, ond eto fe broffwydant.