19 Wele gorwynt yr ARGLWYDD yn mynd allan yn ffyrnig,gan chwyrlïo fel tymestl,a throelli uwchben yr annuwiol.
20 Ni phaid digofaint yr ARGLWYDDnes iddo gwblhau ei fwriadau a'u cyflawni.Yn y dyddiau diwethaf y deallwch hyn yn eglur.
21 Nid anfonais y proffwydi, ond eto fe redant;ni leferais wrthynt, ond eto fe broffwydant.
22 Pe baent wedi sefyll yn fy nghyngor, byddent wedi peri i'm pobl wrando ar fy ngeiriau,a'u troi o'u ffyrdd drygionus ac o'u gweithredoedd drwg.
23 “Onid Duw agos wyf fi,” medd yr ARGLWYDD, “ac nid Duw pell?
24 A all unrhyw un lechu yn y dirgel fel na welaf mohono?” medd yr ARGLWYDD.“Onid wyf yn llenwi'r nefoedd a'r ddaear?” medd yr ARGLWYDD.
25 “Clywais yr hyn a ddywedodd y proffwydi sy'n proffwydo celwydd yn fy enw gan ddweud, ‘Breuddwydiais, breuddwydiais!’