23 “Onid Duw agos wyf fi,” medd yr ARGLWYDD, “ac nid Duw pell?
24 A all unrhyw un lechu yn y dirgel fel na welaf mohono?” medd yr ARGLWYDD.“Onid wyf yn llenwi'r nefoedd a'r ddaear?” medd yr ARGLWYDD.
25 “Clywais yr hyn a ddywedodd y proffwydi sy'n proffwydo celwydd yn fy enw gan ddweud, ‘Breuddwydiais, breuddwydiais!’
26 Pa hyd yr erys ym mwriad y proffwydi broffwydo celwydd—proffwydi hudoliaeth eu calon eu hunain?
27 Bwriadant beri i'm pobl anghofio fy enw trwy adrodd eu breuddwydion y naill wrth y llall, fel y bu i'w hynafiaid anghofio fy enw o achos Baal.
28 Y proffwyd sydd â breuddwyd ganddo, myneged ei freuddwyd, a'r hwn sydd â'm gair i ganddo, llefared fy ngair yn ffyddlon. Beth sy'n gyffredin rhwng gwellt a gwenith?” medd yr ARGLWYDD.
29 “Onid yw fy ngair fel tân,” medd yr ARGLWYDD, “ac fel gordd sy'n dryllio'r graig?