30 Am hynny, wele fi yn erbyn y proffwydi sy'n lladrata fy ngeiriau oddi ar ei gilydd,” medd yr ARGLWYDD.
31 “Wele fi yn erbyn y proffwydi sy'n llunio geiriau ac yn eu cyhoeddi fel oracl,” medd yr ARGLWYDD.
32 “Wele fi yn erbyn y rhai sy'n proffwydo breuddwydion gau, yn eu hadrodd, ac yn hudo fy mhobl â'u hanwiredd a'u gwagedd,” medd yr ARGLWYDD. “Nid anfonais i mohonynt, na rhoi gorchymyn iddynt; ni wnânt ddim lles i'r bobl hyn,” medd yr ARGLWYDD.
33 “Pan ofynnir iti gan y bobl hyn, neu gan broffwyd neu offeiriad, ‘Beth yw baich yr ARGLWYDD?’ dywedi wrthynt, ‘Chwi yw'r baich; ac fe'ch bwriaf ymaith, medd yr ARGLWYDD.’
34 Os dywed proffwyd neu offeiriad neu'r bobl, ‘Baich yr ARGLWYDD’, mi gosbaf hwnnw a'i dŷ.
35 Fel hyn y bydd pob un ohonoch yn dweud wrth siarad ymhlith eich gilydd: ‘Beth a etyb yr ARGLWYDD?’ neu, ‘Beth a lefara'r ARGLWYDD?’
36 Ond ni fyddwch yn sôn eto am ‘faich yr ARGLWYDD’, oherwydd daeth ‘baich’ i olygu eich gair chwi eich hunain; yr ydych wedi gwyrdroi geiriau'r Duw byw, ARGLWYDD y Lluoedd, ein Duw ni.