34 Os dywed proffwyd neu offeiriad neu'r bobl, ‘Baich yr ARGLWYDD’, mi gosbaf hwnnw a'i dŷ.
35 Fel hyn y bydd pob un ohonoch yn dweud wrth siarad ymhlith eich gilydd: ‘Beth a etyb yr ARGLWYDD?’ neu, ‘Beth a lefara'r ARGLWYDD?’
36 Ond ni fyddwch yn sôn eto am ‘faich yr ARGLWYDD’, oherwydd daeth ‘baich’ i olygu eich gair chwi eich hunain; yr ydych wedi gwyrdroi geiriau'r Duw byw, ARGLWYDD y Lluoedd, ein Duw ni.
37 Fel hyn y dywedi wrth y proffwyd hwnnw: ‘Pa ateb a roes yr ARGLWYDD iti?’, neu, ‘Beth a lefarodd wrthyt?’
38 Ac os dywedwch, ‘Baich yr ARGLWYDD’, yna, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Am i chwi ddefnyddio'r gair hwn, ‘Baich yr ARGLWYDD’, er i mi anfon atoch a dweud, ‘Peidiwch â defnyddio “Baich yr ARGLWYDD”,’
39 fe'ch codaf chwi fel baich a'ch taflu o'm gŵydd, chwi a'r ddinas a roddais i chwi ac i'ch hynafiaid.
40 Rhof arnoch warth tragwyddol a gwaradwydd tragwyddol nas anghofir.”