4 Gosodaf arnynt fugeiliaid a'u bugeilia, ac nid ofnant mwyach, na chael braw; ac ni chosbir hwy,” medd yr ARGLWYDD.
5 “Wele'r dyddiau yn dod,” medd yr ARGLWYDD,“y cyfodaf i Ddafydd Flaguryn cyfiawn,brenin a fydd yn llywodraethu'n ddoeth,yn gwneud barn a chyfiawnder yn y tir.
6 Yn ei ddyddiau ef fe achubir Jwdaac fe drig Israel mewn diogelwch;dyma'r enw a roddir iddo:‘Yr ARGLWYDD ein Cyfiawnder.’
7 “Am hynny, wele'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “pryd na ddywed neb mwyach, ‘Byw fyddo'r ARGLWYDD a ddygodd dylwyth Israel i fyny o wlad yr Aifft’,
8 ond, ‘Byw fyddo'r ARGLWYDD a ddygodd dylwyth Israel o dir y gogledd, a'u tywys o'r holl wledydd lle y gyrrais hwy, i drigo eto yn eu gwlad eu hunain.’ ”
9 Am y proffwydi:Torrodd fy nghalon, y mae fy esgyrn i gyd yn crynu;yr wyf fel dyn mewn diod, gŵr wedi ei orchfygu gan win,oherwydd yr ARGLWYDD ac oherwydd ei eiriau sanctaidd.
10 Y mae'r tir yn llawn o odinebwyr,ac o'u herwydd hwy y mae'r wlad wedi ei deifio,y mae porfeydd yr anialwch wedi crino;y mae eu hynt yn ddrwg a'u cadernid yn ddim.