8 ond, ‘Byw fyddo'r ARGLWYDD a ddygodd dylwyth Israel o dir y gogledd, a'u tywys o'r holl wledydd lle y gyrrais hwy, i drigo eto yn eu gwlad eu hunain.’ ”
9 Am y proffwydi:Torrodd fy nghalon, y mae fy esgyrn i gyd yn crynu;yr wyf fel dyn mewn diod, gŵr wedi ei orchfygu gan win,oherwydd yr ARGLWYDD ac oherwydd ei eiriau sanctaidd.
10 Y mae'r tir yn llawn o odinebwyr,ac o'u herwydd hwy y mae'r wlad wedi ei deifio,y mae porfeydd yr anialwch wedi crino;y mae eu hynt yn ddrwg a'u cadernid yn ddim.
11 “Aeth proffwyd ac offeiriad yn annuwiol;o fewn fy nhŷ y cefais eu drygioni,” medd yr ARGLWYDD.
12 “Am hynny bydd eu ffyrdd fel mannau llithrig;gyrrir hwy i'r tywyllwch, a byddant yn syrthio yno.Canys dygaf ddrygioni arnynt ym mlwyddyn eu cosbi,” medd yr ARGLWYDD.
13 “Ymhlith proffwydi Samaria gwelais beth anweddus:y maent yn proffwydo yn enw Baal, ac yn hudo fy mhobl Israel ar gyfeiliorn.
14 Ymhlith proffwydi Jerwsalem gwelais beth erchyll:godinebu a rhodio mewn anwiredd;y maent yn cynnal breichiau'r rhai drygionus,fel na thry neb oddi wrth ei ddrygioni.I mi aethant oll fel Sodom, a'u trigolion fel Gomorra.”