23 Dedan a Tema a Bus; pawb sydd â'u talcennau'n foel;
24 holl frenhinoedd Arabia, a holl frenhinoedd y llwythau cymysg sy'n trigo yn yr anialwch;
25 holl frenhinoedd Simri, a holl frenhinoedd Elam, a holl frenhinoedd Media;
26 holl frenhinoedd y gogledd, yn agos ac ymhell, y naill ar ôl y llall, a holl deyrnasoedd byd ar wyneb y ddaear; brenin Sesach a gaiff yfed ar eu hôl hwy.
27 “Dywedi wrthynt, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Yfwch, a meddwi a chyfogi, a syrthio heb godi, oherwydd y cleddyf a anfonaf i'ch plith.’
28 Os gwrthodant gymryd y cwpan o'th law i'w yfed, yna dywedi wrthynt, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Y mae'n rhaid ei yfed.
29 Canys wele, yr wyf yn dechrau niweidio'r ddinas y galwyd fy enw arni; a ddihangwch chwi? Ni ddihangwch; canys yr wyf yn galw am gleddyf yn erbyn holl breswylwyr y wlad, medd ARGLWYDD y Lluoedd.’