15 Ond gwybyddwch yn sicr, os lladdwch fi, y byddwch yn dwyn arnoch eich hunain, ac ar y ddinas hon a'i thrigolion, waed dyn dieuog. Yn wir, yr ARGLWYDD sydd wedi fy anfon atoch i lefaru'r holl eiriau hyn yn eich clyw.”
16 Dywedodd y tywysogion a'r holl bobl wrth yr offeiriaid a'r proffwydi, “Nid yw'r gŵr hwn yn haeddu cosb marwolaeth, oherwydd yn enw'r ARGLWYDD ein Duw y llefarodd wrthym.”
17 Yna cododd rhai o blith henuriaid y wlad a dweud wrth holl gynulleidfa'r bobl,
18 “Bu Micha o Moreseth yn proffwydo yn nyddiau Heseceia brenin Jwda, a dywedodd wrth holl bobl Jwda, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:’ ”“Bydd Seion yn faes wedi ei aredig,a Jerwsalem yn garneddau,a mynydd y deml yn fynydd-dir coediog.”
19 A laddwyd ef gan Heseceia brenin Jwda a holl Jwda? Onid ofnodd ef yr ARGLWYDD a cheisio ffafr yr ARGLWYDD, ac oni newidiodd yr ARGLWYDD ei feddwl am y drwg a lefarodd yn eu herbyn? Ond dyma ni am wneud drwg mawr i ni ein hunain.”
20 A bu gŵr arall hefyd yn proffwydo yn enw'r ARGLWYDD, Ureia fab Semaia o Ciriath-jearim. Proffwydodd yn union yr un peth â Jeremeia yn erbyn y ddinas hon a'r wlad hon.
21 Clywodd y Brenin Jehoiacim a'i holl osgordd a'i dywysogion ei eiriau, a cheisiodd y brenin ei ladd. Pan glywodd Ureia, fe ofnodd a ffoi i'r Aifft.