9 pam y proffwydaist yn enw'r ARGLWYDD a dweud, ‘Bydd y tŷ hwn fel Seilo, a gwneir y ddinas hon yn anghyfannedd, heb breswylydd’?” Yna ymgasglodd yr holl bobl o gwmpas Jeremeia yn nhŷ'r ARGLWYDD.
10 Pan glywodd tywysogion Jwda am hyn, daethant i fyny o dŷ'r brenin i dŷ'r ARGLWYDD, ac eistedd yn nrws porth newydd tŷ'r ARGLWYDD.
11 Dywedodd yr offeiriaid a'r proffwydi wrth y tywysogion ac wrth yr holl bobl, “Y mae'r gŵr hwn yn haeddu cosb marwolaeth, oherwydd proffwydodd yn erbyn y ddinas hon, fel y clywsoch chwi eich hunain.”
12 Yna llefarodd Jeremeia wrth yr holl dywysogion a'r holl bobl, gan ddweud, “Yr ARGLWYDD a'm hanfonodd i broffwydo yn erbyn y tŷ hwn a'r ddinas hon yr holl eiriau a glywsoch.
13 Yn awr, gwellhewch eich ffyrdd a'ch gweithredoedd, a gwrandewch ar lais yr ARGLWYDD eich Duw, ac fe newidia'r ARGLWYDD ei feddwl am y drwg a lefarodd yn eich erbyn.
14 Amdanaf fi, dyma fi yn eich dwylo; gwnewch i mi fel y gwelwch yn dda ac uniawn.
15 Ond gwybyddwch yn sicr, os lladdwch fi, y byddwch yn dwyn arnoch eich hunain, ac ar y ddinas hon a'i thrigolion, waed dyn dieuog. Yn wir, yr ARGLWYDD sydd wedi fy anfon atoch i lefaru'r holl eiriau hyn yn eich clyw.”