13 “Dos, a dywed wrth Hananeia, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Fe dorraist farrau pren; mi wnaf yn eu lle farrau haearn.
14 Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Rhof iau haearn ar war yr holl genhedloedd hyn, i wasanaethu Nebuchadnesar brenin Babilon, ac fe'i gwasanaethant; a rhof iddo hyd yn oed yr anifeiliaid gwyllt.’ ”
15 Dywedodd y proffwyd Jeremeia wrth Hananeia y proffwyd, “Clyw yn awr, Hananeia! Nid anfonodd yr ARGLWYDD di; ond peraist i'r bobl hyn ymddiried mewn celwydd.
16 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Yr wyf yn dy yrru di oddi ar wyneb y ddaear; o fewn blwyddyn byddi farw, oherwydd dysgaist wrthryfel yn erbyn yr ARGLWYDD.’ ”
17 Bu farw Hananeia y proffwyd y flwyddyn honno, yn y seithfed mis.