4 Adferaf hefyd i'r lle hwn Jechoneia fab Jehoiacim, brenin Jwda, a holl gaethglud Jwda a aeth i Fabilon,’ medd yr ARGLWYDD, ‘canys torraf iau brenin Babilon.’ ”
5 Yna llefarodd y proffwyd Jeremeia wrth Hananeia y proffwyd, yng ngŵydd yr offeiriaid a'r holl bobl a safai yn nhŷ'r ARGLWYDD,
6 gan ddweud, “Amen, gwnaed yr ARGLWYDD felly; cadarnhaed yr ARGLWYDD y geiriau a broffwydaist, ac adfer o Fabilon i'r lle hwn lestri tŷ'r ARGLWYDD, a'r holl gaethglud.
7 Ond gwrando yn awr ar y gair hwn a lefaraf yn dy glyw, ac yng nghlyw'r holl bobl:
8 bu'r proffwydi a fu o'm blaen i ac o'th flaen di, o'r amser gynt, yn proffwydo rhyfeloedd a newyn a haint yn erbyn gwledydd lawer a theyrnasoedd mawrion.
9 Am y sawl sy'n proffwydo heddwch, gwyddys am y proffwyd hwnnw, mai'r ARGLWYDD yn wir a'i hanfonodd, os daw ei air i ben.”
10 Yna cymerodd Hananeia y barrau oddi ar war y proffwyd Jeremeia, a'u torri.