2 “Cod dy olwg i'r moelydd,ac edrych am fan na phuteiniaist ynddo;disgwyliaist amdanynt ger y ffyrdd, fel Arab yn yr anialwch;halogaist y tir â'th buteindra, ac â'th ddrygioni.
3 Ataliwyd y glawogydd, ac ni ddaeth y cawodydd diweddar;ond talcen putain oedd gennyt, a gwrthodaist gywilyddio.
4 Ac onid wyt yn awr yn galw arnaf,‘Fy nhad, cyfaill fy ieuenctid wyt ti—
5 a fydd ef yn ddig hyd byth?a geidw ef lid bob amser?’Fel hyn y lleferaist,ond gwnaethost ddrygioni hyd y gellaist.”
6 Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf yn nyddiau'r Brenin Joseia, “A welaist ti'r hyn a wnaeth Israel anffyddlon? Bu'n rhodianna ar bob bryn uchel a than bob pren gwyrddlas, a phuteinio yno.
7 Dywedais, ‘Wedi iddi wneud hyn i gyd, fe ddychwel ataf.’ Ond ni ddychwelodd, a gwelodd ei chwaer dwyllodrus Jwda hynny.
8 Gwelodd mai'n unig oherwydd i Israel anffyddlon odinebu y gollyngais hi, a rhoi iddi ei llythyr ysgar; er hynny nid ofnodd Jwda, ei chwaer dwyllodrus, ond aeth hithau hefyd a phuteinio.