11 Oherwydd yr wyf gyda thi i'th achub,’ medd yr ARGLWYDD;‘gwnaf ddiwedd ar yr holl genhedloedd y gwasgerais di yn eu plith,ond ni wnaf ddiwedd arnat ti.Ond ceryddaf di yn ôl dy haeddiant; ni'th adawaf yn gwbl ddi-gosb.’ ”
12 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Y mae dy glwy'n anwelladwy a'th archoll yn ddwfn;
13 nid oes neb i ddadlau dy achos;nid oes na moddion nac iachâd i'th ddolur.
14 Y mae dy holl gariadon wedi dy anghofio; nid ydynt yn dy geisio;trewais di â dyrnod gelyn, â chosb greulon,oherwydd maint dy ddrygioni ac amlder dy bechodau.
15 Pam yr wyt yn llefain am dy glwy? Y mae dy ddolur yn anwelladwy.Oherwydd maint dy ddrygioni ac amlder dy bechodauyr wyf wedi gwneud hyn i ti.
16 “Am hynny ysir pawb sy'n dy ysu di; ac fe â pawb sy'n dy ormesu i gyd i gaethiwed.Bydd dy anrheithwyr yn anrhaith, a gwnaf dy holl ysbeilwyr yn ysbail.
17 Oherwydd adferaf iechyd i ti, ac iachâf di o'th friwiau,” medd yr ARGLWYDD,“am iddynt dy alw yn ysgymun,Seion, yr un nad yw neb yn ymofyn amdani.”