1 “Yr adeg honno,” medd yr ARGLWYDD, “byddaf fi'n Dduw i holl deuluoedd Israel, a byddant hwy'n bobl i mi.”
2 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Cafodd y bobl a osgôdd y cleddyf ffafr yn yr anialwch;tramwyodd Israel i gael llonydd iddo'i hun.
3 Erstalwm ymddangosodd yr ARGLWYDD iddo.Cerais di â chariad diderfyn;am hynny parheais yn ffyddlon iti.
4 Adeiladaf di drachefn, y wyryf Israel, a chei dy adeiladu;cei ymdrwsio eto â'th dympanau, a mynd allan yn llawen i'r ddawns.
5 Cei blannu eto winllannoedd ar fryniau Samaria,a'r rhai sy'n plannu fydd yn cymryd y ffrwyth.