12 Dônt a chanu yn uchelder Seion;ymddisgleiriant gan ddaioni'r ARGLWYDD,oherwydd yr ŷd a'r gwin a'r olew,ac oherwydd epil y defaid a'r gwartheg.A bydd eu bywyd fel gardd ddyfradwy, heb ddim nychdod mwyach.
13 Yna fe lawenha'r ferch mewn dawns,a'r gwŷr ifainc a'r hen hefyd ynghyd;trof eu galar yn orfoledd a diddanaf hwy;gwnaf eu llawenydd yn fwy na'u gofid.
14 Diwallaf yr offeiriaid â braster,a digonir fy mhobl â'm daioni,” medd yr ARGLWYDD.
15 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Clywir llef yn Rama,galarnad ac wylofain,Rachel yn wylo am ei phlant,yn gwrthod ei chysuro am ei phlant,oherwydd nad ydynt mwy.”
16 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Paid ag wylo, ymatal rhag dagrau,oherwydd y mae elw i'th lafur,” medd yr ARGLWYDD;“dychwelant o wlad y gelyn.
17 Y mae gobaith iti yn y diwedd,” medd yr ARGLWYDD;“fe ddychwel dy blant i'w bro eu hunain.
18 Gwrandewais yn astud ar Effraim yn cwyno,‘Disgyblaist fi fel llo heb ei ddofi, a chymerais fy nisgyblu;adfer fi, imi ddychwelyd,oherwydd ti yw'r ARGLWYDD fy Nuw.