14 Diwallaf yr offeiriaid â braster,a digonir fy mhobl â'm daioni,” medd yr ARGLWYDD.
15 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Clywir llef yn Rama,galarnad ac wylofain,Rachel yn wylo am ei phlant,yn gwrthod ei chysuro am ei phlant,oherwydd nad ydynt mwy.”
16 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Paid ag wylo, ymatal rhag dagrau,oherwydd y mae elw i'th lafur,” medd yr ARGLWYDD;“dychwelant o wlad y gelyn.
17 Y mae gobaith iti yn y diwedd,” medd yr ARGLWYDD;“fe ddychwel dy blant i'w bro eu hunain.
18 Gwrandewais yn astud ar Effraim yn cwyno,‘Disgyblaist fi fel llo heb ei ddofi, a chymerais fy nisgyblu;adfer fi, imi ddychwelyd,oherwydd ti yw'r ARGLWYDD fy Nuw.
19 Wedi imi droi, bu edifar gennyf;wedi i mi ddysgu, trewais fy nghlun;cefais fy nghywilyddio a'm gwaradwyddo,gan ddwyn gwarth fy ieuenctid.’
20 “A yw Effraim yn fab annwyl, ac yn blentyn hyfryd i mi?Bob tro y llefaraf yn ei erbyn, parhaf i'w gofio o hyd.Y mae fy enaid yn dyheu amdano, ni allaf beidio â thrugarhau wrtho,” medd yr ARGLWYDD.