20 “A yw Effraim yn fab annwyl, ac yn blentyn hyfryd i mi?Bob tro y llefaraf yn ei erbyn, parhaf i'w gofio o hyd.Y mae fy enaid yn dyheu amdano, ni allaf beidio â thrugarhau wrtho,” medd yr ARGLWYDD.
21 “Cyfod iti arwyddion, gosod iti fynegbyst,astudia'r ffordd yn fanwl, y briffordd a dramwyaist;dychwel, wyryf Israel, dychwel i'th ddinasoedd hyn.
22 Pa hyd y byddi'n ymdroi, ferch anwadal?Y mae'r ARGLWYDD wedi creu peth newydd ar y ddaear,benyw yn amddiffyn gŵr.”
23 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: “Dywedir eto y gair hwn yn nhir Jwda a'i dinasoedd, pan adferaf ei llwyddiant:‘Bendithied yr ARGLWYDD di,gartref cyfiawnder, fynydd sanctaidd.’
24 Yno bydd Jwda a'i dinasoedd yn preswylio ynghyd,yr amaethwyr a bugeiliaid y praidd;
25 paraf wlychu llwnc y sychedig,a digoni pob un sydd yn nychu.”
26 Ar hyn deffroais a sylwi, a melys oedd fy nghwsg imi.