21 “Cyfod iti arwyddion, gosod iti fynegbyst,astudia'r ffordd yn fanwl, y briffordd a dramwyaist;dychwel, wyryf Israel, dychwel i'th ddinasoedd hyn.
22 Pa hyd y byddi'n ymdroi, ferch anwadal?Y mae'r ARGLWYDD wedi creu peth newydd ar y ddaear,benyw yn amddiffyn gŵr.”
23 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: “Dywedir eto y gair hwn yn nhir Jwda a'i dinasoedd, pan adferaf ei llwyddiant:‘Bendithied yr ARGLWYDD di,gartref cyfiawnder, fynydd sanctaidd.’
24 Yno bydd Jwda a'i dinasoedd yn preswylio ynghyd,yr amaethwyr a bugeiliaid y praidd;
25 paraf wlychu llwnc y sychedig,a digoni pob un sydd yn nychu.”
26 Ar hyn deffroais a sylwi, a melys oedd fy nghwsg imi.
27 “Y mae'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “yr heuaf dŷ Israel a thŷ Jwda â had dyn ac â had anifail.