25 paraf wlychu llwnc y sychedig,a digoni pob un sydd yn nychu.”
26 Ar hyn deffroais a sylwi, a melys oedd fy nghwsg imi.
27 “Y mae'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “yr heuaf dŷ Israel a thŷ Jwda â had dyn ac â had anifail.
28 Ac fel y gwyliais drostynt i ddiwreiddio a thynnu i lawr, i ddymchwel a dinistrio a pheri drwg, felly y gwyliaf drostynt i adeiladu a phlannu,” medd yr ARGLWYDD.
29 “Yn y dyddiau hynny, ni ddywedir mwyach,‘Y rhieni fu'n bwyta grawnwin surion,ond ar ddannedd y plant y mae dincod.’
30 Oherwydd bydd pob un yn marw am ei gamwedd ei hun; y sawl fydd yn bwyta grawnwin surion, ar ei ddannedd ef y bydd dincod.
31 “Y mae'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “y gwnaf gyfamod newydd â thŷ Israel ac â thŷ Jwda.