29 “Yn y dyddiau hynny, ni ddywedir mwyach,‘Y rhieni fu'n bwyta grawnwin surion,ond ar ddannedd y plant y mae dincod.’
30 Oherwydd bydd pob un yn marw am ei gamwedd ei hun; y sawl fydd yn bwyta grawnwin surion, ar ei ddannedd ef y bydd dincod.
31 “Y mae'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “y gwnaf gyfamod newydd â thŷ Israel ac â thŷ Jwda.
32 Ni fydd yn debyg i'r cyfamod a wneuthum â'u hynafiaid, y dydd y gafaelais yn eu llaw i'w harwain allan o wlad yr Aifft. Torasant y cyfamod hwnnw, er mai myfi oedd yn arglwydd arnynt,” medd yr ARGLWYDD.
33 “Ond dyma'r cyfamod a wnaf â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny,” medd yr ARGLWYDD; “rhof fy nghyfraith o'u mewn, ysgrifennaf hi ar eu calon, a byddaf fi'n Dduw iddynt a hwythau'n bobl i mi.
34 Ac ni fyddant mwyach yn dysgu bob un ei gymydog a phob un ei berthynas, gan ddweud, ‘Adnebydd yr ARGLWYDD’; oblegid byddant i gyd yn f'adnabod, o'r lleiaf hyd y mwyaf ohonynt,” medd yr ARGLWYDD, “oherwydd maddeuaf iddynt eu drygioni, ac ni chofiaf eu pechodau byth mwy.”
35 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD,sy'n rhoi'r haul yn oleuni'r dydd,a threfn y lleuad a'r sêr yn oleuni'r nos,sy'n cynhyrfu'r môr nes bod ei donnau'n rhuo(ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw):